Gwasanaeth yn Eglwys Llandaf i gofio am ddau filwr

David Boyce (ch) a Richard Scanlon a fu farw yn Afghanistan yn 2011 Image copyright Ministry of Defence
Image caption David Boyce (ch) a Richard Scanlon a fu farw yn Afghanistan yn 2011

Bu gwasanaeth arbennig yn Eglwys Gadeiriol Llandaf i gofio am ddau filwr a fu farw yn Afghanistan.

Cafodd Richard Scanlon, 31 oed, o Rymni, Sir Caerffili, a David Boyce, 25 oed o Gaerfaddon eu lladd wedi i'r cerbyd yr oedden nhw'n teithio ynddo gael ei daro gan ffrwydrad yn ardal Yakchai yn ardal Nahr-e-Saraj ym mis Tachwedd.

Roedd y ddau yn gwasanaethu gyda Chatrawd Gyntaf Gwarchodlu Dragwniaid Y Frenhines.

Mae 'na ymgyrch i achub y gatrawd rhag diflannu.

'Sarhad'

Er bod swyddogion amddiffyn wedi dweud nad oes 'na benderfyniad wedi ei wneud am ddyfodol y gatrawd, mae ymgyrchwyr yn pryderu y bydd yn cael ei uno gydag un arall ac y bydd 500 o filwyr yn colli eu gwaith.

Image copyright Athena
Image caption Mae 70% o'r aelodau yn dod o Gymru a siroedd y gororau yn Lloegr

Mae gan Lywodraeth y DU gynlluniau i gwtogi nifer y milwyr o 102,000 i 82,000 erbyn 2020.

Ymhlith y rhai sy'n cefnogi cadw'r gatrawd y mae Ray Scanlon, tad Richard Scanlon.

Dywedodd bod hi'n "sarhad" ar atgof ei fab petai'r gatrawd yn mynd.

"Fe fyddai'n troi yn ei fedd petai'n gwybod be sy'n mynd ymlaen."

Cafodd y gwasanaeth coffa ei gynnal yn Eglwys Llandaf am 11am ddydd Gwener.

Ddydd Mercher fe orymdeithiodd y gatrawd drwy Abertawe ac fe fyddan nhw'n gwneud yr un peth yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

Mae'n rhan o ddathliadau Jiwbilî Ddiemwnt Y Frenhines yng Nghymru.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.