Albwm o'r 1860au o'r Bala a Llanuwchllyn ar werth

Mae nifer o'r lluniau yn dangos y trigolion yn eu dillad gorau Image copyright Mullock's
Image caption Mae nifer o'r lluniau yn dangos y trigolion yn eu dillad gorau

Mae albwm lluniau teulu o gyfnod Fictoraidd a gafodd ei ganfod mewn atig tŷ yn datgelu hanes bywyd trigolion mewn un ardal o Wynedd 150 mlynedd yn ôl.

Yn ôl arwerthwyr mae'r lluniau o dref Y Bala a phentref Llanuwchllyn yn dyddio'n ôl i'r 1860au, rhyw 20 mlynedd ers dyfeisio ffotograffiaeth.

Mae'r lluniau yn dangos pobl leol, fel y barbwr a'r heddwas, trigolion yn eu dillad gorau yn ogystal â golygfeydd o'r ardal.

Cafodd yr albwm ei ganfod yn Sir Amwythig.

Mae'n cael ei werthu gan Mullock's Ltd Specialist Auctioneers & Valuers yn Church Stretton ar Fehefin 28.

Cenedlaethau

"Cafodd yr albwm ei ganfod yn atig dynes yn Sir Amwythig," meddai Richard Westwood-Brookes o'r cwmni.

Image copyright Mullock's auctioneer
Image caption Manylion ar gefn un o'r lluniau am y ffotograffydd

"Roedd ei gŵr yn dod o Gymru ac rydym yn credu bod o wedi cael ei basio drwy'r cenedlaethau.

"Mae'n debyg mai dyma'r lluniau cyntaf o'r ardal i'w cymryd wedi i ffotograffiaeth gael ei ddyfeisio."

Gan fod y broses o dynnu lluniau mor ddrud, roedd yn arferiad cyffredin i gymryd lluniau oedd yr un maint a phlatiau'r camera.

Roedd y lluniau yn cael eu hargraffu ar bapur tenau cyn eu rhoi ar gardfwrdd.

Cafodd y lluniau o ardal Y Bala eu tynnu gan Edward Williams.

Mae rhai yn nodi'r Bala ac eraill yn nodi lleoliad ei stiwdio yn Llanrwst.

Cyflwr arbennig

Dywedodd Mr Westwood-Brookes eu bod yn aml yn cael eu gwerthu mewn arwerthiannau ond nid bob tro mewn cyflwr cystal.

Image copyright Mullocks
Image caption Cafodd y lluniau eu canfod mewn albwm mewn tŷ yn Yr Amwythig

"Mae hwn mewn cyflwr arbennig iawn ac mae'n anarferol i gael cyfres o luniau o bobl yn byw mewn ardal fechan," meddai.

Dywedodd nad yw'n hawdd rhoi amcan bris ond gall gael ei werthu am tua £500.

Gall gael ei werthu i gasglwr lluniau, i brifysgol neu i'r Amgueddfa Genedlaethol.

"Ond fe allai ei werthu i rywun yn yr ardal, neu i berthynas rhywun sydd yn y llun," ychwanegodd.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.