Y seren rygbi Gareth Thomas yn ennill cariad@iaith

Gareth Thomas Image copyright S4C
Image caption Cafodd Gareth Thomas ei ddewis gan y gwylwyr a gan ei gyd-enwogion

Gareth Thomas, y cyn-chwaraewr rygbi, sydd wedi ennill cyfres cariad@iaith.

Bu wyth o enwogion yn ceisio dysgu Cymraeg mewn cyfres ar S4C am wythnos yng ngwersyll fforest ger Cilgerran.

Yn ogystal â Thomas, roedd y tenor Wynne Evans a'r cyflwynydd newyddion Lucy Owen, yr actor Robert Pugh, cyn-gystadleuydd ar yr X-Factor Lucie Jones, cyflwynydd CBeebies Alex Winters, yr actores Di Botcher a chyflwynydd Scrum V Lisa Rogers.

Cafodd Thomas ei enwebu gyda Botcher fel dewis yr enwogion am ddysgu'r iaith.

Thomas oedd dewis y gwylwyr ac felly yn ennill.

Yn ystod yr wythnos mae'r wyth wedi bod yn mynychu gwersi iaith yn ogystal ag ymgymryd â thasgau yn cynnwys canŵio, arlunio a gêm o Bolo Dŵr mewn cwrwgl.

Mewn rhaglen fyw bob nos, bu Gareth Roberts a Nia Parry yn cyflwyno uchafbwyntiau gwersi a thasgau'r diwrnod.

'Dyfalbarhau'

"Uchafbwynt yr wythnos i fi oedd gweld Wynne a Di Botch yn mynd o allu siarad rhywfaint o Gymraeg i fynd ati i gynnal sgwrs hir yn rhugl," meddai Thomas.

"Maen nhw nawr yn swnio fel bod nhw wedi siarad Cymraeg ers blynyddoedd ac mae hynny'n rhoi'r hyder a'r cymhelliant ifi i ddyfalbarhau.

"Does dim rheswm pam na allai fod yn yr un sefyllfa â nhw yn y dyfodol ac ysbrydoli rhywun arall fel maen nhw wedi fy ysbrydoli i. Mae pob un ohonom ni yn enillwyr ar ddiwedd y dydd!"

Y tiwtoriaid Nia Parry ac Ioan Talfryn sydd wedi bod yn dysgu'r sêr yn ystod yr wythnos.

"Mae wedi bod yn wythnos anhygoel ac mae'r wyth ohonyn nhw wedi ennill yn fy marn i," meddai Nia Parry.

"Mae'r sêr wedi dangos yr hyn mae pobl yn gallu cyflawni mewn wythnos o ddysgu Cymraeg yn defnyddio dull "dadawgrymeg" (desuggestopedia) ac wrth edrych ar yr holl adborth ac ymateb i'r gyfres eleni, maen nhw'n sicr yn ysbrydoliaeth i ddysgwyr ym mhob man. Daliwch ati!"

Fe fydd rhaglen uchafbwyntiau nos Sadwrn Mehefin 2 am 10.10pm a bydd rhaglen Hwb yn mynd y tu ôl i'r llenni am 5pm ddydd Sul Mehefin 3.

Image copyright S4C
Image caption Yr wyth oedd yn ciesio dysgu'r Gymraeg yn cariad@iaith

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.