Abertawe i siarad gyda Graeme Jones wrth chwilio am olynnydd i Brendan Rodgers

Graeme Jones a Roberto Martinez Image copyright Getty Images
Image caption Graeme Jones a Roberto Martinez yn ystod eu cyfnod yn Abertawe

Mae Abertawe wedi cael caniatâd i siarad gyda dirprwy reolwr Wigan Graeme Jones.

Daeth y cadarnhad oddi wrth Gadeirydd Wigan, Dave Whelan.

Mae Abertawe yn chwilio am olynydd wedi i Brendan Rodgers gymryd yr awenau yn Anfield.

"Fe wnaethom ni gael Graeme o Abertawe ac felly dyw hi ond yn deg fod Abertawe yn cael siarad ag ef," meddai Whelan.

Roedd Abertawe wedi targedu Jones, sy'n 42, cyn i Rodgers gael ei benodi ddau dymor yn ôl.

"De ni ddim am ei golli, mae'n foi da," meddai Whelan.

"Ond gallwch chi ddim eu rhwystro os ydyn nhw am symud ymlaen," meddai.

Dywedodd Cadeirydd Abertawe Huw Jenkins fod "pawb yn cael ei ystyried" ar gyfer y swydd.

Opsiynau

Deellir fod Abertawe wedi cael iawndal o £7m gan Lerpwl ar ôl i Colin Pascoe, hyfforddwr y tîm cyntaf, a Glen Driscoll, rheolwr ffitrwydd ddilyn Rodgers i Anfield.

Mae'r Elyrch wedi bod yn ystyried gwahanol opsiynau am beth amser ar ôl i enw Rodgers gael ei gysylltu gyda Tottenham yn gynharach yn y tymor.

Deellir iddyn nhw ystyried enwau yn Sbaen a'r Iseldiroedd ynghyd â Gus Poyet, rheolwr Brighton ac Ian Holloway, rheolwr Blackpool.

Roedd Jones yn ddirprwy reolwr yn Abertawe rhwng 2007 a 2009 o dan Roberto Martinez.

Mae'r trafodaethau yn parhau yn Stadiwm Liberty wrth i Rodgers gael ei gyflwyno fel y rheolwr newydd yn Anfield ddydd Gwener.

Daw penderfyniad Rodgers i adael flwyddyn union ar ôl i Abertawe sicrhau dyrchafiad i'r Uwchgynghrair.

'Trist gadael'

Y tymor diwethaf fe wnaeth Yr Elyrch orffen yn 11eg yn yr Uwchgynrhair gan ennill canmoliaeth eang am eu dull o chwarae.

Roedden nhw dri safle yn is na Lerpwl orffennodd yn 8fed.

Yn y gynhadledd i'r wasg yn Anfield fe wnaeth perchnogion Lerpwl gadarnhau mai Rodgers oedd eu dewis cyntaf er eu bod wedi ystyried enwau eraill er mwyn sicrhau bod y broses yn un gywir.

Ond maen nhw'n falch o fod wedi gallu penodi eu "dewis cyntaf".

Dywedodd Rodgers ei bod yn "ddiwrnod trist" i adael Abertawe.

"Fe wnaethon ni greu hanes, y tîm cyntaf o Gymru i gyrraedd yr Uwchgynghrair ac mae gen i'r parch mwya' i'r clwb," meddai.

"Mae gen i lot o ffrindiau yn y clwb, yn y ddinas ac mae'n drist gadael.

"Rhaid i mi ddiolch i'r ddinas ac i Gymru am gael dwy flynedd anhygoel yna.

"Mae'n glwb arbennig a fydd yn siŵr o barhau i symud ymlaen."

Straeon perthnasol