'Cyfle i longyfarch y Frenhines'

Y Frenhines Image copyright (C) British Broadcasting Corporation

Dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones fod dathliadau'r Jiwbilî Diemwnt yn gyfle i longyfarch y Frenhines am ei chefnogaeth i Gymru dros gyfnod o 60 mlynedd.

Ddydd Mawrth fe fydd Mr Jones yn mynychu Gwasanaeth o Ddiolch Cenedlaethol i ddathlu'r Jiwbilî yn Eglwys Gadeiriol St Paul.

Ar yr un diwrnod fe fydd yn cyflwyno Medalau Jiwbilî Diemwnt i aelodau o gatrawd y Cymry Brenhinol yn sir Wiltshire.

"Mae'n iawn i ddweud fod hwn yn achlysur hanesyddol, a dwi'n cael teimlad fod pobl ledled Cymru, o bob cefndir a gwahanol gymunedau, yn cofleidio hyn.

"Mae Jiwbilî Diemwnt yn achlysur hynod anarferol.

"Mae yna 100 mlynedd ers yr un diwethaf. Mae yna nifer yng Nghymru fydd am longyfarch Ei Mawrhydi am ei gwasanaeth drwy gydol ei theyrnasiad."

Cafalri Cymreig

Ddydd Sadwrn hefyd fel rhan o ddathliadau'r penwythnos a gŵyl y banc bydd catrawd Gwarchodlu Dragŵn y Frenhines yn gorymdeithio drwy Gaerdydd.

Mae'r gatrawd, sy'n cael ei hadnabod fel y Cafalri Cymreig oherwydd bod y rhan fwyaf yn cael eu recriwtio o Gymru, newydd ddychwelyd o Afghanistan. .

Yn Abertawe mae'r cyngor sir wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau yng nghanol y ddinas rhwng 10am a 4pm.

Yn Y Rhyl bydd yna barti yn para pedwar diwrnod gan ddechrau dydd Sadwrn yn y Marine Lake.

Bydd yna naw o fadau o Gymru yn cymryd rhan mewn pasiant badau ar Afon Tafwys ddydd Sul fel rhan o ddathliadau Jiwbilî Diemwnt y Frenhines.

Mae pedwar o'r badau yn cael eu rhwyfo sef , Cwch John Kerr, Fleetwing, Cunnigar Stinger a Calon Dyfi, mae yna dri chwch hanesyddol, un iat ac un cwch cul.

Mae yna dros 1,000 o fadau yn rhan o'r pasiant.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.