Easterby i arwain y Scarlets

Simon Easterby Image copyright Huw Evans picture agency

Simon Easterby yw Prif Hyfforddwr newydd y Scarlets, ar ôl i Nigel Davies ymuno â Chaerloyw fel Cyfarwyddwr Rygbi.

Fe chwaraeodd Easterby dros 200 o gemau i'r rhanbarth cyn troi ei olygon at hyfforddi.

Mae'r Scarlets wedi penodi Danny Wilson fel hyfforddwr y blaenwyr, tra bydd Mark Jones yn parhau fel hyfforddwr yr olwyr.

Wrth gyhoeddi ei benderfyniad i ymuno a Chaerloyw dywedodd Davies sy'n 47 oed: "Yn broffesiynol, hwn oedd y penderfyniad cywir ond yn emosiynol roedd o'n un o'r pethau anodd ei wneud.

"Rwyf wastad wedi meddwl pryd oedd yr amser yn gywir y byddwn am roi her i'm hyn mewn lle ac amgylchedd gwahanol, ac mae'r rôl newydd yn rhoi hynny.

"Mae wedi bod yn anrhydedd a braint i fod yn brif hyfforddwr y Scarlets," meddai Davies oedd yn brif hyfforddwr am bedair blynedd.