Cyhoeddi enw'r milwr fu farw

Michael Thacker Image copyright MOD
Image caption Bu farw Corporal Michael Thacker ar ôl cael ei anafu yn nhalaith Helmand

Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cyhoeddi enw'r milwr o Fataliwn 1af y Cymry Brenhinol gafodd ei ladd yn Afghanistan ddydd Gwener.

Roedd y Corporal Michael John Thacker yn byw yn Coventry gyda'i wraig a dau o blant.

Cafodd ei addysg yn Ysgol Uwchradd Fairwater yng Nghwmbrân.

Dywed y Weinyddiaeth Amddiffyn iddo gael ei saethu yn ardal Nahr-e Saraj yn nhalaith Helmand ddydd Gwener.

Hwn oedd y trydydd tro iddo wasanaethau yn Afghanistan.

Dywedodd ei wraig Catherine fod Michael "yn ŵr a thad anhygoel ...dyn ffraeth, caredig a llawn cariad.

"Roedd pawb oedd yn ei gwrdd yn cymryd ato."

Brawd

Ymunodd â chatrawd y Ffiwsilwyr Cymreig yn 2004.

Cafodd y gatrawd ei uno i ffurfio'r Cymry Brenhinol yn 2006.

Mae ei frawd yr is-gorporal Matthew Thacker, hefyd yn aelod o Fataliwn 1af y Cymry Brenhinol.

"Roeddem yn fwy na brodyr, roeddem yn ffrindiau gorau, gallai ddim mynegi faint fyddai'n ei golli."

Doedd yr is gorporal Thacker ddim yn Afghanistan yr adeg i'w frawd farw, meddai llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Ychwanegodd nad yw ei ddau frawd arall, Mark ac Ashely, yn aelodau o'r lluoedd arfog.

Dywedodd y cyrnol is gapten Stephen Webb: "Roedd yn gymeriad mawr, yn filwr arbennig, yn hynod ffyddlon ac yn hynod o falch o'i deulu."

Erbyn hyn mae 416 o aelodau lluoedd Prydain wedi eu lladd yn Afghanistan ers 2001.