Dim lle i Dan Biggar

Rhodri Jones, Harry Robinson, Liam Williams Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Mae Rhodri Jones, Harry Robinson a Liam Williams wedi eu cynnwys yn y garfan

Mae Robert Howley hyfforddwr dros dro Cymru wedi cyhoeddi ei garfan derfynol fydd yn teithio i Awstralia.

Does yna ddim lle i Dan Biggar, Martyn Williams, Adam Warren, Will Harries a Ryan Bevington.

Tri chwaraewr wnaeth ennill eu cap cyntaf yn y fuddugoliaeth 30-21 yn erbyn y Barbariaid ddydd Sadwrn sydd wedi eu cynnwys yn y garfan o 34 yw'r asgellwr Harry Robinson, y prop Rhodri Jones a'r cefnwr Liam Williams

Doedd dim disgwyl y byddai'r blaenasgellwr Martyn Williams wedi ei ddewis.

Ar ôl ennill ei 100fed cap ddydd Sadwrn daeth cadarnhad ei fod yn rhoi'r gorau i chwarae.

Dywedodd Howley fod y penderfyniad yn un anodd, yn enwedig yn achos Biggar.

"Roedd y pedwar wedi dangos cryn gymeriad ac wedi bod yn hynod broffesiynol ddydd Sadwrn," meddai Howely.

"Cafodd y pedwar wybod yn gynharach yn yr wythnos, er mwyn iddynt allu paratoi yn iawn ar gyfer y gêm ac mae gennyf barch mawr iddynt."

"Fy mhenderfyniad fi oedd e, nes i ddim trafod e gyda Warren, a hwn yw'r peth anoddaf rwyf wedi gorfod ei wneud fel hyfforddwr yn enwedig yn achos Dan Biggar.

Fe wnaeth 16 o chwaraewyr Cymru hedfan i Awstralia yn gynharach yr wythnos gyda Shaun Edwards, hyfforddwr yr amddiffyn.

Bydd y prawf cyntaf yn erbyn Awstralia yn Brisbane ar Fehefin 9.

Dyw Cymru heb guro'r Wallabies ar domen eu hunain ers 1969.

Carfan Cymru:

BLAENWYR: Luke Charteris (Dreigiau), Ian Evans (Gweilch), Bradley Davies (Gleision), Toby Faletau (Dreigiau), Rhys Gill (Saracens), Richard Hibbard (Gweilch), Paul James (Gweilch), Gethin Jenkins (Gleision), Adam Jones (Gweilch), Alun Wyn Jones (Gweilch), Rhodri Jones (Scarlets), Ryan Jones (Gweilch), Dan Lydiate (Dreigiau), Ken Owens (Scarlets), Matthew Rees (Scarlets), Aaron Shingler (Scarlets), Justin Tipuric (Gweilch), Josh Turnbull (Scarlets), Sam Warburton (Gleision)

OLWYR: Ashley Beck (Gweilch), Andrew Bishop (Gweilch), Aled Brew (Biarritz), Alex Cuthbert (Gleision), Jonathan Davies (Scarlets), Leigh Halfpenny (Gleision), James Hook (Perpignan), George North (Scarlets), Mike Phillips (Bayonne), Rhys Priestland (Scarlets), Harry Robinson (Gleision), Rhys Webb (Gweilch), Lloyd Williams (Gleision), Scott Williams (Scarlets), Liam Williams (Scarlets).

Straeon perthnasol