Malky Mackay am 'gwblhau'r dasg' yng Nghaerdydd

Malky Mackay Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Dywed Malky Mackay ei fod am gwblhau ei waith yng Nghaerdydd

Dywedodd rheolwr clwb pêl-droed Caerdydd, Malky Mackay, ei bod yn anrhydedd cael ei gysylltu gyda swydd rheolwr Norwich, ond ei fod yn benderfynol o orffen ei dasg yng Nghaerdydd.

Roed enw Mackay yn un o nifer gafodd eu cysylltu gyda'r swydd wag wedi i Paul Lambert symud i Aston Villa yr wythnos ddiwethaf.

Chwaraeodd Mackay dros 200 o gemau i Norwich mewn cyfnod o chwe blynedd gyda'r clwb.

Ond mae prif weithredwr y clwb wedi dweud eu bod yn chwilio am rywun gyda phrofiad ar y lefel uchaf.

"Mae'n fraint i gael fy nghysylltu gyda'r swydd yn Carrow Road. Maen nhw'n agos iawn at fy nghalon," meddai datganiad a gyhoeddwyd gan asiant Mackay.

"Mae gen i ffrindiau da o fewn i'r clwb, a pharch mawr tuag at Delia Smith a'i gŵr Michael Wynn Jones (y perchnogion).

"Ond rwyf wedi dechrau ar brosiect yma yng Nghaerdydd.

"Rydym wedi gosod sylfaen ar gyfer llwyddiant tymor hir yn y clwb, ac rydym yn dal i weithio ar hynny.

"Rwy'n gwbl ymroddedig i glwb Caerdydd a'r heriau sydd o'n blaenau."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.