'Cynnydd mewn twristiaeth grefyddol'

Ffynnnon Gwenffrewi, Treffynnon
Image caption Mae'r adeilad o amgylch Ffynnon Gwenffrewi yn dyddio'n ôl i ddiwedd y 1400au

Yn ôl Yr Eglwys yng Nghymru mae twristiaeth grefyddol ar gynnydd o edrych ar nifer yr ymwelwyr â llefydd hanesyddol.

Mae 'na adroddiadau bod 'na gynnydd o tua 6,000 o ymwelwyr i 36,000 wedi ymweld â Ffynnon Gwenffrewi yn Nhreffynnon, sir y Fflint yn y blynyddoedd diwethaf.

Image copyright Fruit Monkey
Image caption Cerflun 'Ein Harglwyddes' ym Mhenrhys, Y Rhondda

Ac mae grŵp o bentrefwyr yn Sir Ddinbych wedi dod at ei gilydd i adfer ffynnon sanctaidd sy'n dal i ddenu ymwelwyr.

Mae un grŵp yn paratoi i drefnu eu taith gyntaf i atyniadau sanctaidd yng ngogledd Cymru fel rhan o encil.

Dywedodd ceidwad Ffynnon Gwenffrewi eu bod wedi gweld pobl o "bob cred" yn ymweld â'r lle a hynny am bwrpas crefyddol neu i ddysgu am dreftadaeth yr adeilad.

Atyniadau eraill sydd wedi gweld cynnydd ydi Llyfrgell Gladstone ym Mhenarlâg yn Sir y Fflint sy'n ganolfan astudio diwinyddiaeth, a cherflun Arglwyddes Penrhys sy'n edrych allan dros Gwm Rhondda.

Mae Canolfan Beuno Sant yn Nhremerichion, Sir Ddinbych a ffynnon sanctaidd San Dyfnog yn Llanrhaeadr, Sir Ddinbych, wedi gweld cynnydd yn nifer yr ymwelwyr hefyd.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.