Gyrrwr beic modur wedi marw ar yr A470 yng Nghaerdydd

Mae dyn 26 oed wedi marw ar ôl colli rheolaeth ar ei feic modur ar ffordd yr A470 yng Nghaerdydd.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar y lôn ogleddol yn Yr Eglwys Newydd am 4.33pm ddydd Llun.

Roedd y dyn yn byw yn lleol ac yn gyrru beic modur Yamaha R1 coch.

Mae Heddlu De Cymru yn apelio am dystion i'r hyn ddigwyddodd.

Os oes ganddoch chi wybodaeth fe ddylech chi gysylltu gydag Uned Plismona Ffyrdd Heddlu De Cymru ar 029 2063 3438.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.