Hofrennydd yn achub cerddwr

Hofrennydd o'r Awyrlu yn y Fali yn hedfan dros Eryri
Image caption Hofrennydd o Ganolfan Awyrlu'r Fali yn hedfan dros Eryri

Cafodd cerddwr 46 oed ei achub gan hofrennydd yr Awyrlu ar ôl cwympo yn Eryri ddydd Llun.

Roedd wedi cwympo 10 troedfedd ac wedi brifo ei gefn.

Cynorthwyodd Tîm Achub De Eryri yn y lle cyntaf.

Yna cafodd y dyn ei godi 240 troedfedd i'r hofrennydd o Ganolfan Awyrlu'r Fali ar Ynys Môn cyn cael ei gludo i Ysbyty Gwynedd, Bangor.

Fe wnaeth hofrennydd o Ganolfan Awyrlu'r Fali hefyd gynorthwyo menyw oedd wedi torri pigwrn yn Rhoslefain, Tywyn, Gwynedd.

Cafodd ei chludo i Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.