Amgueddfa filwrol am arddangos eitemau yn well

Amgueddfa'r Cymry Brenhinol, Aberhonddu Image copyright other
Image caption Mae baner Jac yr Undeb a godwyd uwchben Rorke's Drift yn 1879 yn yr amgueddfa

Mae amgueddfa filwrol yn gobeithio arddangos nifer o eitemau prin a gwerthfawr fel rhan o gynlluniau i roi bywyd newydd iddi.

Mae gan yr amgueddfa yn Aberhonddu ddarnau o Ryfel Anglo-Zulu yn ogystal ag 17 Croes Victoria.

Yn Amgueddfa'r Cymry Brenhinol hefyd y mae baner Jac yr Undeb a godwyd uwchben Rorke's Drift yn 1879, ac mae ôl y bwledi i'w weld o hyd.

£1 miliwn

Ond mae angen £1 miliwn dros y pum mlynedd nesaf er mwyn gwneud yn siŵr bod hyn yn cael ei wireddu.

"Mae'r apêl yn cael ei lansio er mwyn cynnal a chadw ein darnau mwya' gwerthfawr," meddai'r curadur Bill Cainan.

"Hefyd mae 'na nifer o eitemau sydd wir angen eu harddangos mewn ffordd llawer mwy addas.

"Fe fydd yn deyrnged addas i'r gwŷr dewr."

Dywedodd y Cyrnol Tim Van Rees, cadeirydd bwrdd gweithredol yr ymddiriedolwyr, bod eitemau gwych sydd ddim i'w gweld ar hyn o bryd.

"Rydym yn codi arian yn y gobaith o allu defnyddio technoleg fodern i wella'r cyflwyniad o'r casgliad gwych er mwyn i genedlaethau'r dyfodol fod yn falch o'u hanes a hanes y dref."