Cymru'n uwch ar restr detholion

Craig Bellamy a Severo Meza yn edrych ar Steve Morison gyda'r bêl Image copyright Reuters
Image caption Collodd Cymru'r gêm gyfeillgar o 2-0 yn erbyn Mecsico

Mae tîm pêl-droed Cymru wedi codi tri lle yn rhestr detholion y byd.

Ar restr ddiweddaraf FIFA, corff rheoli'r gamp drwy'r byd, mae Cymru bellach yn safle 38 er iddyn nhw golli eu gêm yn erbyn Mecsico ym mis Mai.

Mae Sbaen wedi ymestyn y bwlch ar frig y rhestr ond y tîm agosaf atyn nhw yw Uruguay wedi iddyn nhw gyrraedd rownd gynderfynol Cwpan y Byd yn 2010 ac ennill y Copa America yr haf diwethaf.

Mae Lloegr wedi codi un safle i chweched a'r Alban wedi codi saith safle i rif 41.

Ond siom gafodd Gogledd Iwerddon, gan ddisgyn tri safle i rif 103.

Aros yn yr unfan wnaeth Gweriniaeth Iwerddon yn safle rhif 18.

RHESTR DETHOLION Y BYD FIFA
Tîm Safle newydd Newid
Sbaen 1 +/-0
Uruguay 2 +1
Yr Almaen 3 -1
Yr Iseldiroedd 4 +/- 0
Brasil 5 +1
Lloegr 6 +1
Ariannin 7 +2
Croatia 8 +/- 0
Denmarc 9 +1
Portiwgal 10 -5
Gweriniaeth Iwerddon 18 +/- 0
Cymru 38 +3
Yr Alban 41 +7
Gogledd Iwerddon 103 -3

Straeon perthnasol