Cwest: Penglog pêl-droediwr wedi torri

Bu farw pêl-droediwr 22 oed ar ôl i'w benglog dorri pan gafodd ei daro gan gar yn Llangefni.

Roedd Tomos Wyn Roberts yn cerdded pan gafodd ei daro i'r llawr ym mis Tachwedd.

Clywodd y cwest ddydd Mercher nad oedd yn debygol y byddai'r gwrandawiad yn ailddechrau am fod achos llys i'w gynnal.

Roedd Mr Roberts, ffitiwr o Langefni, yn cerdded ar hyd ffordd yr A5114 yn Llangefni ger gorsaf betrol Ffordd Glanhwfa.

Dywedodd y patholegydd Dr Mark Lord y byddai wedi marw yn syth.

Straeon perthnasol