Ymgyrch achub yn diogelu tua mil o bobl

Pobl yn clirio yn dilyn llifogydd yn Nhalybont
Image caption Dechreuodd y gwaith clirio yn Nhalybont brynhawn dydd Sadwrn

Mae'r gwaith clirio wedi dechrau ar ôl llifogydd difrifol yn ardal Aberystwyth a gogledd Ceredigion nos Wener a bore Sadwrn.

Yn ôl Asiantaeth yr Amgylchedd ddydyn nhw ddim wedi gweld llifogydd cynddrwg yn yr ardal erioed o'r blaen.

Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys cafodd tua 1,000 o bobl eu hachub neu eu cludo i ddiogelwch yng ngogledd Ceredigion ac ardal Machynllleth gan yr ymgyrch achub ar ôl gwerth mis o law mewn 24 awr.

Bu'n rhaid i'r gwasanaethau brys achub pobl o nifer o feysydd carafannau ac o'u cartrefi.

A bu'n rhaid i hofrennydd achub criw bad achub gyda'r glannnau a'u codi i ddiogelwch.

Llanw uchel

Mae Prif Weinidog Llywodraeth y DU wedi siarad â Phrif Weinidog Cymru gan gynnig ei gefnogaeth a chanmol gwaith y gwasanaethau brys.

Dywed Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru fod tua 100 o ddiffoddwyr tân, 12 injan dân a phedwar cwch achub yn cael eu defnyddio ar gyfer yr ymgyrch.

Y gred yw bod tri o bobl wedi derbyn triniaeth am anafiadau mân yn sgil y llifogydd.

Image caption Bu'n rhaid i dri o bobl gael eu cludo i fan diogel gan hofrennydd yr awyrlu

Mae Cyngor Ceredigion a Heddlu Dyfed-Powys yn gofyn i aelodau o'r cyhoedd gadw draw o afonydd.

Roedd nifer o siopau o dan ddŵr ar gyrion tref Aberystwyth brynhawn Sadwrn gan gynnwys archfarchnad Morrisons a siop B&Q.

Mae Meddygfa Ystwyth wedi cael ei heffeithio gan y llifogydd ac mae Ysgol Penglais ar agor er mwyn rhoi lloches i dros 100 o bobl gafodd eu hachub o'r Parciau Carafannau.

Bu'n rhaid i Ganolfan Hamdden Plascrug yn Aberystwyth gau yn gynnar oherwydd bod y maes parcio dan ddŵr.

Y llefydd sydd wedi eu heffeithio'n wael yw pentrefi Talybont, Dôl-y-bont, Penrhyncoch a Llandre i'r gogledd o Aberystwyth.

Roedd penllanw yn yr ardal am hanner dydd ac fe fydd yr un nesaf am 12.45am Ddydd Sul.

Dywed Asiantaeth yr Amgylchedd fod hyd at bum modfedd (120mm) o law wedi cwympo mewn 24 awr.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys Police eu bod yn credu bod tua mil o bobl wedi eu hachub neu eu cludo i ddiogelwch gan gynnwys y rheiny cafodd eu symud fel rhan o ymgyrch rhagofal diogelwch.

Dywedodd Andy Francis o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru: "Dylai lefelau afonydd gilio yn awr yn dilyn y penllanw am hanner dydd ond fe fyddwn ni'n dal i fonitro'r sefyllfa."

Mae nifer o dai wedi cael eu gwacau a lloches dros dro wedi ei agor mewn neuaddau pentref a thafarndai lleol.

Ffyrdd ynghau

Roedd Machynlleth ym Mhowys hefyd wedi dioddef llifogydd Ddydd Sadwrn.

Mae nifer o asiantaethau yn cynnwys Cyngor Sir Ceredigion y Gwasanaeth Tân, Ambiwlans, RNLI, Gwylwyr y Glannau a Hofrennydd Achub Awyr a Môr wedi bod yn cydweithio fel rhan o'r ymgyrch achub.

Image caption Cafodd tua 20 o bobl eu hachub o barc carafannau yn y Llandre

Cafodd Rheolaeth Arian Aml Asiantaeth ei sefydlu yn Depo Cyngor Sir Ceredigion yn Llanbadarn Fawr, Aberystwyth.

Dywedodd Cyngor Ceredigion fod y ffyrdd canlynol yn dal ynghau am 4.30pm brynhawn Sadwrn.

  • A487 Derwenlas,
  • A487 Pont Dyfi
  • A487 Talybont,
  • A487 Bow Street,
  • A487 Glandyfi,
  • A487 Comins Coch,
  • A44 Capel Bangor,
  • A44 Gelli Angharad
  • A4129 cylchdro Morrisons Parcyllyn, Aberystwyth
  • B4572 ar agor i gerbydau 4x4 yn unig
  • C1013 Penbontrhydybeddau - Cwmerfyn

Yn ôl Cyngor Ceredigion mae'r ffyrdd canlynol yn awr ar agor gyda gofal.

  • Ffordd yr U1086 Talybont - Nantymoch.
  • Ffordd yr A44 Lovesgrove
  • Ffordd yr A487 yn Nhalybont.

Cafodd 35 o bobl eu hachub o barc carafanau Riverside yn Llandre ger y Borth, pedair milltir o Aberystywth, ar ôl i'r afon Leri orlifo.

Chafodd neb eu hanafu yn ddifrifol ond bu'n rhaid i dri o bobl gael eu cludo i fan diogel gan hofrennydd yr awyrlu.

Ym mharc carafannau Mill House yn Nôl-y-bont ger Borth y gred yw bod 11 o bobl wedi cael eu hachub.

Tai unllawr

Cafodd 30 o bobl eu hachub o Barc Carafannau Maes Bangor yng Nghapel Bangor ac fe gafodd 20 o bobl eu hachub o Barc Carafannau Glen Leri ger Y Borth.

Yn Nhalybont, naw milltir o Aberystwyth, bu'n rhaid i nifer o bobl gysgodi yn Neuadd y pentre' ar ôl i hyd at bum troedfedd o ddŵr lifo i 25 cartref.

Cafodd 10 tŷ eu heffeithio gan lifogydd ym mhentref Penrhyncoch, tair milltir o Aberystwyth lle bu'n rhaid i un person gael ei achub.

Dywedodd Gwylwyr y Glannau'r Borth fod rhan o'r ymgyrch wedi cynnwys lansio bad achub gyda'r glannau ar yr afon Leri yn Nôl-y-Bont i achub dyn anabl o garafan oedd wedi ei heffeithio gan lifogydd.

Yn ôl Asiantaeth yr Amgylchedd nid ydynt wedi gweld llifogydd fel hyn yn yr ardal o'r blaen ac mae 'na boeni y gallai'r sefyllfa waethygu eto.

Dywedodd y Prif Arolygydd Robyn Mason o Heddlu Dyfed-Powys fod timau achub wedi cludo pobl o'u cartrefi a'r henoed a phobl yn byw mewn tai unllawr oedd yn cael eu blaenoriaethu.

Fore Sadwrn dywedodd Jason Hughes o Ddôl-y-bont: "Mae'r dŵr wedi codi i uchder o chwe throedfedd a thair modfedd."

Cymar Pat Edwards, 56 oed, yw rheolwr Parc Carafannau Mill House.

Dywedodd nad oedd hi wedi gweld llifogydd tebyg ers hanner canrif.

'Dringo clawdd'

"Ar hyn o bryd mae tri theulu yma, mae un teulu yn aros yn eu carafán ac mae dau gwpl yn aros yn y llofft gyda ni," meddai.

"Mae'r hofrennydd wedi cynnig ein hachub ac rydym wedi cynllunio llwybr dianc.

"Mae'n bosib y gallwn ddringo clawdd a chael ein codi gan yr hofrennydd."

Dywedodd Sam Ebenezer o Dalybont fod pawb yn yr ardal wedi eu syfrdanu gan lefel dŵr yr afon sy'n llifo trwy'r pentref.

Bu'n rhaid i'r gwasanaethau brys dorri twll trwy ddrws tŷ Mike Barber o Gapel Bangor ar ôl i'w gartref gael ei effeithio gan lifogydd.

"Rwyf newydd addurno'r tŷ a gosod carped newydd," meddai.

Dywedodd Paula Colley, oedd yn aros ym Mharc Carafannau Maes Bangor fod tractor wedi cludo nifer o bobl i ganolfan gymunedol leol.

'Dewrder'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig fod y Prif Weinidog, David Cameron, wedi siarad â Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones ac Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan ynghylch y llifogydd.

Ychwanegodd y llefarydd: "Cynigodd Mr Cameron ei gefnogaeth lwyr i bawb sydd wedi cael eu heffeithio gan y tywydd garw gan ddiolch i staff y gwasanaethau brys wnaeth weithio'n ddygn i sicrhau diogelwch pobl.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan fod y gwasanaethau bryd wedi ymateb yn gyflym i'r argyfwng.

Ychwanegodd: "Fe wnaeth y rhai oedd yn rhan o'r ymdrech achub yn y meysydd carafanau yn Llandre ymateb yn sydyn a gyda dewrder," meddai.

"Hoffwn gynnig fy nghefnogaeth iddyn nhw ac fy niolchiadau am y ffordd maen nhw wedi cynorthwyo'r trigolion a'r ymwelwyr â'r ardal.

"Rwyf yn credu bod y sefyllfa o dan reolaeth. Hoffwn ddiolch yn arbennig i griwiau hofrenyddion Sea King yr RAF, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, criwiau'r badau achub, a badau achub y Gwasanaeth Tân yn Riverside, am eu hymdrechion.

"Dwi'n gobeithio fod pawb yn yr ardal yn ddiogel ac yn ddianaf."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "mae Prif Weinidog Cymru yn bryderus iawn ynghylch y llifogydd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru.

"Mae e'n diolch i'r rheiny sydd wedi bod yn rhan o'r ymgyrch achub."

Wrth ymateb i'r llifogydd yng ngogledd Ceredigion, dywedodd Elin Jones AC Plaid Cymru: "Roedd graddfa'r llifogydd mewn cymunedau yng ngogledd Ceredigion dros nos yn annisgwyl ac rwy'n cymeradwyo ein gwasanaethau achub a brys lleol am y modd effeithio y maent wedi ymateb i'r sefyllfa heriol hon.

"Ar adegau fel hyn, mae pobl Ceredigion wastad yn dangos ysbryd cymunedol, ac roedd i'w weld yn glir heddiw eto wrth i ni ddelio gyda'r llifogydd a'u heffeithiau".

Mae'r rhagolygon yn dweud y bydd yn dywydd ansefydlog yn parhau am o leia' 10 niwrnod arall gyda chymysgedd o heulwen, cawodydd a chyfnodau hirach o law ar adegau.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.