Wali Tomos ac Arthur Picton yn trafod tic tacs cyn y gêm
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Brwydr arall ar Faes Dulyn

8 Mehefin 2012 Diweddarwyd 10:03 BST

Anghofiwch am gemau agoriadol Pencampwriaeth Ewro 2012.

Heb os gêm, fawr y dydd ydi honno fydd yn cael ei chynnal yn Nyffryn Nantlle nos Wener.

Mae 'na dros 20 mlynedd bellach ers i dîm C'mon Midffîld a chriw Pobol y Cwm herio ei gilydd.

Gêm sy'n cael ei chofio yn y llyfrau hanes fel 'Brwydr Maes Dulyn'.

I nodi'r achlysur arbennig fe fydd dau o enwogion yr achlysur hwnnw yn dod â thimau o sêr ynghyd nos Wener.

Adroddiad Rhodri Llwyd.