Cymru dan-20 yn creu hanes

Matthew Morgan Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Y maswr Matthew Morgan yw un o ser Cymru dan-20

Mae tîm rygbi dan-20 Cymru wedi creu hanes ym Mhencampwriaeth Dan-20 y Byd.

Maen nhw wedi curo Seland Newydd o 9-6 - y tro cyntaf i'r Crysau Duon golli yn hanes y gystadleuaeth.

Yn yr un bencampwriaeth y llynedd, enillodd Seland Newydd o 92-0 yn erbyn Cymru.

Enillodd Cymru eu gêm agoriadol 44-18 yn erbyn Fiji ddydd Llun, wrth i Seland Newydd guro Samoa 63-0.

Fel mae'r sgôr yn awgrymu, roedd yr ornest yn Stellenbosch, De Affrica, yn un amddiffynnol a chaled, gyda'r un o'r ddau dîm yn llwyddo i sgorio cais.

Tîm Cymru dan-20 v. Seland Newydd :

Ross Jones (Gweilch); Tom Prydie (Dreigiau), Cory Allen (Gleision), Jack Dixon (Dreigiau), Eli Walker (Gweilch); Matthew Morgan (Gweilch), Tom Habberfield (Gweilch); Rob Evans (Scarlets), Kirby Myhill (Scarlets, capt), Samson Lee (Scarlets), Rhodri Hughes (Gweilch), Matthew Screech (Gleision), Luke Hamilton (Gleision), Ellis Jenkins (Gleision), Dan Baker (Gweilch).