Gwasanaeth o gofeb rhyfel newydd

The Rassau and Beaufort War Memorial Image copyright Rassau and Beaufort Branch Royal British Legion
Image caption Bydd cofeb Rasa a Chendl yn cofio'r rhai fu farw o'r ddwy gymuned

Bydd gwasanaeth yn cael ei gynnal i gysegru cofeb rhyfel yn y cymoedd yn dilyn ymgyrch ddwy flynedd gan ddau bentref i godi arian tuag ato.

Bydd y gwasanaeth ym mhentref Cendl ger Glyn Ebwy ym Mlaenau Gwent, yn cynnwys gorymdaith fydd yn cael ei harwain gan Fand y Gwarchodlu Cymreig.

Mae cofeb rhyfel Cendl a Rasa er cof am y rhai a gollwyd yn y ddwy gymuned.

Codwyd dros £56,000 gan y gangen leol o'r Lleng Brydeinig a chymdeithas tenantiaid a thrigolion lleol.

Nid yw'r ddau bentref wedi cael cofeb rhyfel o'r blaen.

Yn y gorffennol mae cangen y Lleng Brydeinig yn Rasa a Chendl wedi nodi Sul y Cofio yng nghofadail Glyn Ebwy.

Dywedodd un o'r rhai fu'n codi arian, Stewart Healy, y bydd y gofeb farmor yn cofio'r rhai fu farw yn y ddau ryfel byd a rhyfeloedd eraill mwy diweddar.

"Does dim enwau ar y gofeb o'r bobl leol fu farw yn y rhyfeloedd," meddai.

"Gan bod cymaint o amser wedi mynd heibio, roedden ni'n poeni rhag ofn i ni anghofio am rhywun wedi'r holl flynyddoedd, felly mae'r gofeb ar gyfer pawb a fu farw ym mhob rhyfel."

Wedi ei gerfio ar y gofeb bydd y geiriau "All that we are, all that we have, we owe to them."

Bydd yr orymdaith yn gadael Ysgol Gynradd Beaufort Hill am 12:30pm.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.