Llifogydd: Dechrau clirio'r llanast yng Ngheredigion

Pobl yn clirio yn dilyn llifogydd yn Nhalybont
Image caption Dechreuodd y gwaith clirio yn Nhalybont brynhawn dydd Sadwrn

Mae cannoedd o bobl wedi dechrau ar y gwaith o glirio'r llanast yng ngogledd Ceredigion wedi'r llifogydd difrifol yno ddydd Sadwrn.

Fe gafodd 150 o bobl eu hachub gan y gwasanaethau brys ac o leiaf fil o bobl eu gorfodi i symud i fan diogel.

Cafodd tri o bobl eu trin am fân anafiadau.

Bu'n rhaid i nifer o bobl dreulio'r noson gyda ffrindiau neu mewn gwestai ar ôl i'w cartrefi a'u carafannau gael eu dinistrio.

Ffyrdd ynghau

Brynhawn dydd Sul dywedodd Cyngor Ceredigion fod prif ffyrdd Ceredigion yn awr ar agor gyda gofal ar wahân i'r ffordd B4353 rhwng Ynyslas a Thre'r Ddol sy'n parhau ar gau.

Mae rhan o'r A487 i'r gogledd o Geredigion yn parhau ar gau yn Nerwenlas.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi cyhoeddi un rhybudd llifogydd heddiw, ar gyfer Afon Teifi yn Llanybydder a Llanbedr-pont-steffan.

Yn ddiweddarach Ddydd Sul ymwelodd Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau Llywodraeth Cymru â Thalybont i siarad ag aelodau o'r ymgyrch achub a thrigolion y pentref.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, y byddai Gweinidogion yn cydweithio ag asiantaethau i helpu cymunedau sydd wedi eu heffeithio gan y llifogydd.

"Unwaith eto rydym wedi gweld dewrder nodedig ein gwasanaethau brys," meddai.

"Mae'n diolch i broffesiynoldeb ein gwasanaethau brys proffesiynol a gwirfoddol nad oes neb wedi colli eu bywydau."

Fore Sul dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru fod 12 criw yn dal i geisio cael gwared â'r llifddwr yn ardal Aberystwyth.

Mae diffoddwyr tân o Dde Cymru wedi bod yn helpu cael gwared â'r llifddwr yn ardal Parc yr Onnen, Llanbadarn Fawr.

Mae ffordd yr A44 ynghau i'r ddau gyfeiriad rhwng ffordd yr A4159 a ffordd yr A4120 yn dilyn y llifogydd.

Dywed Traffig Cymru fod ffordd yr A487 ym Mhont Dyfi hefyd ynghau i'r ddau gyfeiriad rhwng ffordd yr A493 a ffordd yr A489 Heol Maengwyn ym Machynlleth.

Ddydd Sadwrn bu'n rhaid i briodas Ceri Jones o Dalybont a Dylan Jones o Bennal yng nghapel Bethel Talybont gael ei gohirio tan Ddydd Sul oherwydd y llifogydd yn y pentref.

Aeth y dŵr trwy gartrefi ym Mhen-bont Rhydybeddau ger Penrhyncoch hefyd ac mae'r difrod a wnaeth i'r bont yno yn broblem i saith o dai ac 20 o drigolion.

Roedd y dŵr mor gryf bore Sadwrn nes iddo olchi seiliau'r bont i ffwrdd ac mae darn mawr o goncrid yng ngwely'r afon a thrawstiau dur wedi'u golchi i ffwrdd hefyd.

Ni fydd rheilffordd Dyffryn Rheidol yn cynnal gwasanaethau am o leia' wythnos wedi i hyd at 50 llath o'r cledrau gael eu difrodi gan y llifogydd.

Mae Prif Weinidog Llywodraeth y DU wedi siarad â Phrif Weinidog Cymru gan gynnig ei gefnogaeth a chanmol gwaith y gwasanaethau brys.

Ymgyrch achub

Y llefydd gafodd eu heffeithio'n wael yw pentrefi Talybont, Dôl-y-bont, Penrhyn-coch a Llandre i'r gogledd o Aberystwyth.

Roedd Machynlleth ym Mhowys hefyd wedi dioddef llifogydd Ddydd Sadwrn.

Dywed Asiantaeth yr Amgylchedd fod hyd at bum modfedd (120mm) o law wedi cwympo mewn 24 awr.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys Police eu bod yn credu bod tua mil o bobl wedi eu hachub neu eu cludo i ddiogelwch gan gynnwys y rheiny cafodd eu symud fel rhan o ymgyrch rhagofal diogelwch.

Image caption Cafodd tua 20 o bobl eu hachub o barc carafannau yn y Llandre

Mae nifer o asiantaethau yn cynnwys Cyngor Sir Ceredigion y Gwasanaeth Tân, Ambiwlans, RNLI, Gwylwyr y Glannau a Hofrennydd Achub Awyr a Môr wedi bod yn cydweithio fel rhan o'r ymgyrch achub.

Cafodd Rheolaeth Arian Aml Asiantaeth ei sefydlu yn Depo Cyngor Sir Ceredigion yn Llanbadarn Fawr, Aberystwyth.

Cafodd 35 o bobl eu hachub pan ddifrodwyd mwy na 100 o garafannau ym mharc carafannau Riverside yn Llandre ger y Borth, pedair milltir o Aberystwyth, ar ôl i'r afon Leri orlifo.

Difrod i bontydd

Ym mharc carafannau Mill House yn Nôl-y-bont ger Borth y gred yw bod 11 o bobl wedi cael eu hachub.

Cafodd 30 o bobl eu hachub o Barc Carafannau Maes Bangor yng Nghapel Bangor ac fe gafodd 20 o bobl eu hachub o Barc Carafannau Glen Leri ger Y Borth.

Yn Nhalybont, naw milltir o Aberystwyth, bu'n rhaid i nifer o bobl gysgodi yn Neuadd y pentre' ar ôl i hyd at bum troedfedd o ddŵr lifo i 25 cartref.

Cafodd 10 tŷ eu heffeithio gan lifogydd ym mhentref Penrhyn-coch, tair milltir o Aberystwyth lle bu'n rhaid i un person gael ei achub.

Dywed Heddlu-Dyfed Powys fod pont yn Nhalybont ac un arall yng Ngoginan wedi eu difrodi ond y gred yw nad ydynt yn debygol o ddymchwel.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig fod y Prif Weinidog, David Cameron, wedi siarad â Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones ac Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan ynghylch y llifogydd.

Ychwanegodd y llefarydd: "Cynigodd Mr Cameron ei gefnogaeth lwyr i bawb sydd wedi cael eu heffeithio gan y tywydd garw gan ddiolch i staff y gwasanaethau brys wnaeth weithio'n ddygn i sicrhau diogelwch pobl.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan fod y gwasanaethau bryd wedi ymateb yn gyflym i'r argyfwng.

Ychwanegodd: "Fe wnaeth y rhai oedd yn rhan o'r ymdrech achub yn y meysydd carafannau yn Llandre ymateb yn sydyn a gyda dewrder," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Prif Weinidog Cymru yn bryderus iawn ynghylch y llifogydd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru.

"Mae e'n diolch i'r rheiny sydd wedi bod yn rhan o'r ymgyrch achub."

Wrth ymateb i'r llifogydd yng ngogledd Ceredigion, dywedodd Elin Jones AC Plaid Cymru: "Ar adegau fel hyn, mae pobl Ceredigion wastad yn dangos ysbryd cymunedol, ac roedd i'w weld yn glir heddiw eto wrth i ni ddelio gyda'r llifogydd a'u heffeithiau".

Dywedodd AS Ceredigion, Mark Williams: "Rwyf wedi clywed straeon arswydus gan rai o'r bobl sydd wedi dioddef yn dilyn y llifogydd gan gynnwys pobl yn dihuno yn eu carafannau am dri o'r gloch y bore i weld y dŵr yn codi ac yn symud yn gyflym.

"Mae'n wyrth na gollodd neb eu bywydau."

Mae'r rhagolygon yn dweud y bydd yn dywydd ansefydlog yn parhau am o leia' 10 niwrnod arall gyda chymysgedd o heulwen, cawodydd a chyfnodau hirach o law ar adegau.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.