Newidiadau i lif traffig Yr Wyddgrug oherwydd gwaith cynnal a chadw

Diwrnod marchnad yn Yr Wyddgrug Image copyright Steve Wainwright
Image caption Bydd marchnad Yr Wyddgrug yn gorfod symud tra bod y gwaith yn cael ei gynnal

Mae system llif traffig newydd yn dod i rym mewn tref yng ngogledd ddwyrain Cymru'r wythnos hon.

Bydd 30 wythnos o waith adfer prif bibellau nwy yn effeithio ar draffig yn Yr Wyddgrug o ddydd Llun.

Bydd y gwaith yn golygu y bydd y farchnad, sy'n cael ei chynnal ddwywaith yr wythnos - ar ddyddiau Mercher a Sadwrn - yn cael ei symud dros dro.

Bydd system llif traffig unffordd hefyd yn dod i rym dros y cyfnod.

Dywedodd cwmni Wales and West Utilities (WWU) fod y gwaith yn rhan o'u rhaglen i newid pibellau pob 30 mlynedd sy'n costio miliynau o bunnoedd.

"Rydym yn derbyn bod y gwaith hwn yn cael ei gynnal mewn ardal sensitif ond fe fyddwn ni'n gweithio chwe diwrnod bob wythnos i sicrhau bod y cynllun yn cael ei gwblhau cyn gynted â phosib," meddai rheolwr prosiect WWU, Peter Hughes.

Yn ogystal, roedd system oleuadau traffig newydd i fod i gael ei chyflwyno ym Mhrestatyn ddydd Llun, ond mae'r gwaith hwnnw wedi cael ei ohirio am wythnos oherwydd problemau'n gosod goleuadau traffig.

Mae'n ymwneud â'r gwaith o adeiladu archfarchnad ger Parc Siopa Prestatyn.

Bydd y system draffig honno nawr yn dod i rym ddydd Llun, Mehefin 18.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.