Dim lle i David Davies yn y Dŵr Agored

David Davies Image copyright Getty Images
Image caption Fe fydd David Davies yn cystadlu yn y pwll yn unig

Bydd y nofiwr David Davies ddim yn cystadlu yn y Gystadleuaeth Dŵr Agored yn y Gemau Olympaidd.

Roedd angen i Davies orffen yn y 10 uchaf yn y gystadleuaeth yn Setubal, Portiwgal, er mwyn sicrhau'r hawl i gystadlu, neu i orffen o flaen y nofiwr Daniel Fogg.

Fe wnaeth Davies orffen yn safle 38 ddydd Sul.

Bydd yn rhaid i Fogg, wnaeth orffen yn safle 35, aros i glywed dyfarniad panel o ddewiswyr i weld a fydd yn cael cystadlu yn Gemau Llundain.

Mae'r Davies, o'r Barri, eisoes wedi sicrhau lle yn nhîm Prydain yn y gystadleuaeth 1500 metr yn y pwll.

Ond yn bersonol roedd e'n ffafrio'r Gystadleuaeth Dŵr Agored.

Fe wnaeth y nofiwr 27 oed ennill y fedal arian yn y gamp yng Ngemau Beijing, tra iddo ennill yr efydd yn y 1500 metr yn 2004.

Enillwyd y ras 10 cilomedr yn Setubal gan Mellouli o Tunisia mewn amser o un awr 45 munud a 18.5 eiliad.

Roedd Davies wedi cymryd seibiant o chwe wythnos ar ôl cyngor meddygol.

Straeon perthnasol