Asiantaeth yn rhybuddio: 'Mwy o law ar y ffordd'

Wrth i gannoedd geisio clirio annibendod yn sgil llifogydd yng Ngheredigion a Gwynedd, mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi rhybuddo bod mwy o law ar y ffordd.

Dywedon nhw na ddylai hyn achosi mwy o lifogydd ond y gallai effeithio ar y clirio.

Fe ddylai pobl sy'n byw neu'n gweithio ger afonydd fod yn wyliadwrus a chymryd mwy o ofal os yw'r lefelau'n codi, meddai'r asiantaeth.

'Risg o hyd'

A dylai pobl gadw'n glir o lannau'r afonydd.

"Mae lefelau uchel afonydd yn risg o hyd," meddai Andy Francis, rheolwr ardal y gwasanaeth tân.

"Peidiwch â mynd yn agos at y dŵr achos mae'n beryglus o hyd.

"Ddylai gyrwyr ddim ceisio gyrru drwy ardaloedd o dan ddŵr."

Pan ddihunodd rhai pobol yn oriau mân bore Sadwrn roedd troedfeddi o ddŵr.

Image copyright PA
Image caption Y gwasanaethau achub yn helpu symud pobl o'u cartrefi a'u carafanau

Mewn rhai lleoedd roedd lefel y dŵr yn bum troedfedd (1.5 metr).

Fe ddinistriwyd eiddo, cartrefi, carafanau a ffyrdd ym mhentrefi Tal-y-bont, Llandre, Dôl-y-bont, Ynys Las, Borth, Penrhyncoch, Pen-bont Rhydybeddau a Chapel Bangor.

Cafodd tua 1,000 o bobl yn ardal Aberystwyth a gogledd Ceredigion eu heffeithio gan y llifogydd.

Achubwyd 150 gan y gwasanaethau brys a chafodd cannoedd eu symud i fan diogel.

Pwmpio dŵr

Cafodd tri o bobl driniaeth am fân anafiadau.

Yn gynharach ddydd Llun dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru mai un peiriant oedd ganddyn nhw yn pwmpio dŵr erbyn bore Llun.

Cafodd tîm o arbenigwyr eu galw o Rydaman i ddelio gyda'r gwaith yn ardal Llanbadarn Fawr yn Aberystwyth.

Bu'r criwiau yn gweithio drwy'r nos.

Image copyright Ystwyth Medical Centre
Image caption Y difrod y tu mewn i Feddygfa Ystwyth

Effeithiodd y llifogydd ar Feddygfa Ystwyth yn Llanbadarn Fawr a chafodd gwasanaethau eu symud i safle IBERS ger Penrhyncoch.

Dywedodd llefarydd ar ran y feddygfa, sy'n gofalu am 9,000 o gleifion, fod sawl troedfedd o ddŵr wedi mynd i mewn ac wedi difrodi ystafelloedd ymgynghori, y dderbynfa a'r swyddfeydd.

Mae'r holl offer trydanol oedd ar y llawr gwaelod wedi eu dinistrio.

Yn Nhrawsgoed, ger Aberystwyth ddydd Gwener mewn 24 awr cwympodd dwywaith lefel arferol mis Mehefin.

Apêl

Mae arweinydd cyngor Ceredigion, Ellen ap Gwynn, sy'n byw yn Nhal-y-bont , wedi lansio apêl i helpu'r trigolion sydd wedi dioddef.

"Fe wnes i'n bersonol weld dinistr y llifogydd," meddai.

Image copyright Penri James
Image caption Cafodd cannoedd eu symud o'r carafanau ym Mharc Carafanau Riverside yn Llandre dair milltir o Aberystwyth

"Dwi'n gobeithio drwy lansio'r apêl y gallwn gynorthwyo'r rhai effeithiwyd."

"Mae wedi bod yn braf gweld y gymuned yn dod at ei gilydd i gynorthwyo cymdogion yn y fath fodd," ychwanegodd.

Dywedodd y Gweinidog Amgylchedd, John Griffiths, yng Ngheredigion ddydd Llun: "Dwi'n addo y bydd gwersi'n cael eu dysgu."

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi canmol "dewrder nodedig" y gwasanaethau brys.

'Amgylchiadau anodd'

"Roedden nhw'n gweithio mewn amgylchiadau anodd ac fe lwyddwyd i achub cannoedd o bobl.

"Oherwydd proffesiynoldeb ac ymroddiad y criwiau achub ni chollodd neb ei fywyd.

"Fe fydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r holl asiantaethau dros yr oriau, dyddiau ac wythnosau nesaf i sicrhau bod yr ardaloedd yn dod yn ôl i'r drefn arferol mor fuan â phosib."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.