Mynydd: Achub dyn 80 oed

Hofrennydd
Image caption Cafodd hofrennydd yr Awyrlu o'r Fali ei alw

Mae dyn 80 oed o Ganolbarth Lloegr yn yr ysbyty wedi iddo gwympo 150 o droedfeddi ger copa'r Wyddfa.

Fe lithrodd yr aelod o glwb mynydda ar lwybr wedi iddo gyrraedd y gopa.

Oherwydd y fan lle oedd yn gorwedd aeth hofrennydd yr Awyrlu o'r Fali ag aelodau Tîm Achub Mynydd lwyddodd i'w ddodi ar stretsier arbennig.

Roedd anafiadau i'w wyneb.

Aed ag e i Ysbyty Gwynedd, Bangor.