Cystadleuwyr 2012: Andrew Selby

Image copyright (C) British Broadcasting Corporation

Bocsio (Pwysau Pry 52kg)

Ganwyd: 25/12/88

Uchafbwynt gyrfa

Cafodd Andrew Selby flwyddyn anhygoel yn 2011 gan ennill pencampwriaeth Ewrop a cholli'r bencampwriaeth byd i bwynt yn unig i Misha Aloyan o Rwsia.

Petai Selby wedi ennill yr ornest fe fyddai wedi cymhwyso'n awtomatig ar gyfer y Gemau. Yn hytrach roedd rhaid iddo baffio yn erbyn Khalid Yafai i benderfynu pwy fyddai yn y tîm, ac fe enillodd Selby'r ornest hollbwysig.

Isafbwynt gyrfa

Cafodd Selby ffrae gyda phrif hyfforddwr bocsio Team GB, Rob McCracken, yn 2010 wedi cyhuddiad ei fod yn gwastraffu ei botensial.

Dywedodd McCracken: "Fe gollais fy limpyn gydag e ....doedd e ddim yn torchi llewys. Roedd yn fendith clywed ei fod wedi dysgu ei wers cyn ei bod yn rhy hwyr."

Ei siom fwya' mewn gornest oedd colli i Haroon Khan, brawd Amir, yn Gemau'r Gymanwlad yn Delhi.

Ffaith ddiddorol

Mae Andrew yn hanu o'r Barri ac yn frawd i Lee Selby a enillodd bencampwriaeth pwysau plu Prydain a'r Gymanwlad yn 2011.