Uchel Lys yn ystyried canlyniad etholiad yn Sir Ddinbych

Allan Pennington (ch) a Paul Penlington (dde)
Image caption Derbyniodd Allan Pennington (chwith) bleidleisiau a oedd i fod i Paul Penlington, yr ymgeisydd Llafur

Bydd yr Uchel Lys yn ystyried newid canlyniad etholiad ar ôl i bleidleisiau ymgeisydd Llafur gael eu rhoi i ymgeisydd Ceidwadol ag enw tebyg.

Dywedodd Cyngor Sir Ddinbych mai camgymeriad dynol arweiniodd at bleidleisiau Paul Penlington yn cael eu rhoi i'r ymgeisydd Allan Pennington.

Mae'r cyngor wedi cyfadde' mai'r ymgeisydd Llafur fyddai wedi ennill petai ei bleidleisiau wedi eu cyfri'n gywir.

Cadarnhaodd Llafur Cymru eu bod wedi galw am wrthdroi'r canlyniad yn ward Gogledd Prestatyn.

Cyhoeddwyd wedi'r etholiad lleol ar Fai 3 mai Mr Pennington oedd wedi ennill un o dair sedd y ward ar Gyngor Sir Ddinbych gyda 580 o bleidleisiau.

'Camgymeriad'

Roedd Mr Penlington wedi derbyn 366 o bleidleisiau.

Wedyn dywedodd y cyngor y byddai Mr Penlington wedi ennill gyda 605 o bleidleisiau yn erbyn 340 petai'r cyfri wedi bod yn gywir.

"Wedi camgymeriad sylfaenol wrth gyfri'r pleidleisiau yn y ward rydym wedi cyflwyno deiseb etholiad ...," meddai llefarydd ar ran y Blaid Lafur.

'Tystiolaeth'

"Mae hwn bellach yn fater i'r llys ei ystyried ar sail y dystiolaeth gafodd ei chyflwyno."

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor eu bod yn gwybod bod deiseb o blaid ail-gyfri wedi ei chyflwyno.

"Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi dweud wrth y llys nad oes ganddyn nhw wrthwynebiad i hyn ddigwydd.

"Rydym yn aros am arweiniad pellach oddi wrth y llys."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.