Cystadleuwyr 2012 : Elena Allen

Image copyright Boc

Saethu (Skeet Olympaidd)

Ganwyd: 12/6/72 ym Moscow

Cefndir gyrfa

Mae Elena Allen yn byw yng Nghasnewydd.

Yn 2005 fe osododd record byd a safodd tan fis Mawrth eleni, ac fe enillodd ddwy fedal aur yng Ngemau'r Gymanwlad yn Delhi yn 2010.

Enillodd ei gŵr Malcolm fedal aur yn yr un Gemau yn Delhi, ond fe ddaeth siom i Elena yn 2008 pan orffennodd yn safle 14 yn y Gemau Olympaidd yn Beijing.

Ffaith ddiddorol

Mae gan Elena radd mewn ieithoedd modern, ac mae'n gallu siarad Rwsieg ac Almaeneg yn rhugl.