Cystadleuwyr 2012 : David Davies

Image copyright Getty Images

Nofio ( 1500 metr )

Ganwyd: 3/3/85

Uchafbwynt gyrfa

Mae David yn un o gystadleuwyr enwocaf Cymru gan iddo ennill medalau Olympaidd yn Athen a Beijing.

Enillodd fedal efydd yn Athen yn y ras 1500 metr, ac er iddo gael ei siomi drwy orffen yn chweched yn yr un ras yn Beijing, fe wnaeth yn iawn am hynny drwy ennill medal arian yn y ras nofio dŵr agored.

Enillodd Davies fedal aur yn y 1500m yn Gemau'r Gymanwlad yn 2006.

Un siom iddo eleni oedd peidio cael ei ddewis yn y tîm nofio dŵr agored yn y Gemau yn Llundain, ond fe fydd yn cynrychioli Team GB unwaith eto yn y 1500m.

Fe gafodd Davies broblemau iechyd y llynedd - yn benodol problemau gyda blinder - ond mae wedi gwella mewn pryd i fynd i'r Gemau yn Llundain.