Cystadleuwyr 2012 : Georgia Davies

Image copyright Boc

Nofio ( 100m dull cefn )

Ganwyd: 11/10/90

Uchafbwynt gyrfa

Yn 16 oed enillodd Georgia, sy'n nofio yng nghlwb Abertawe, fedal efydd ym Mhencampwriaeth Ieuenctid Ewrop yn y ras 100m dull cefn.

Ers hynny mae'r cynnydd wedi bod yn amlwg, ac fe enillodd fedal arian yn 50m ym Mhencampwriaeth Cwrs Byr Ewrop yn 2011.

Enillodd fedal efydd yn yr un ras yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2010 yn Delhi ac yn 2008 enillodd ddwy fedal arian yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad - 100m a 50m dull cefn.

Mae Georgia yn astudio ar gyfer gradd yn y gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe.