Cystadleuwyr 2012 : Jemma Lowe

Image copyright Boc

Nofio (100m a 200m dull pili-pala)

Ganwyd: 31/3/90

Yn enedigol o Hartlepool, mae Jemma Lowe wedi ennill nifer o fedalau mewn pencampwriaethau dros y pum mlynedd diwethaf.

Uchafbwynt ei gyrfa hyd yma mae'n debyg oedd ennill medal aur yn y ras gyfnewid ym Mhencampwriaeth Ewrop yn 2008, ond enillodd ddwy fedal arian ym Mhencampwriaeth Cwrs Byr Ewrop yn 2011 yn y 100m a'r 200m pili-pala.

Roedd yn aelod o dîm Prydain yn y Gemau Olympaidd yn Beijing yn 2008 yn ogystal.

Cyrhaeddodd y rownd derfynol ym Mhencampwriaeth y Byd yn 2011 yn y 100m a'r 200m, gan orffen yn 7fed ac 8fed.

Un orchest arall oedd ennill medal arian ym Mhencampwriaeth Cwrs Byr y Byd yn 2010 yn y ras 200m pili-pala.