Cerddwyr yn dod o hyd i gorff

Cadair Idris Image copyright dave croker
Image caption Dywedodd yr heddlu ei bod yn ymddangos bod y corff wedi bod yno 'am gryn amser'.

Mae cerddwyr wedi dod o hyd i gorff dyn ar fynydd Cadair Idris ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Dywedodd yr heddlu ei bod yn ymddangos bod y corff wedi bod yno "am gryn amser".

Mae'r heddlu'n ceisio dod o hyd i berthnasau ac wedi dweud y gallai adnabod ffurfiol gymryd peth amser.

Dyw'r farwolaeth ddim yn cael ei thrin fel un amheus.

Yn ôl llefarydd ar ran Tîm Achub a Chwilio Aberdyfi, cafodd y corff ei ddarganfod ger Llyn y Gadair.