Shane Williams i chwarae yn Siapan

Shane Williams
Image caption Sgoriodd Williams 58 cais mewn 87 gêm i Gymru

Mae cyn-asgellwr tîm rygbi Cymru Shane Williams wedi cadarnhau ei fod yn gwneud tro pedol o ran ymddeol o'r gêm gan ymuno â thîm o Siapan y tymor nesaf.

Mae cyn chwaraewr y Gweilch wedi arwyddo cytundeb blwyddyn â thîm Mitsubishi Dynamos yn Ail Adran Cynghrair Siapan.

Dywedodd y 'Dewin Bach o'r Aman' ar wefan Twitter: "Roedd yn gynnig munud olaf y bu'n rhaid imi feddwl yn ddwys amdano mewn cyfnod byr.

"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at yr antur gyffrous".

Sgoriodd Williams, 35 oed, ddwy gais yn ei gêm olaf i'r Gweilch yn rownd derfynol y Gynghrair Pro 12 i guro Leinster ym mis Mai.

Chwaraeodd Williams am y tro olaf yn y Deyrnas Unedig pan gollodd y Barbariaid i Gymru.

Sgoriodd Williams 58 cais mewn 87 gêm i Gymru a 57 cais mewn 141 gêm i'r Gweilch cyn cyhoeddi y byddai'n ymddeol ar ddiwedd y tymor ym mis Chwefror eleni.

Straeon perthnasol