Cystadleuwyr 2012 : Natasha Perdue

Image copyright Boc

Codi Pwysau (-69kg)

Yn 36 oed, Natasha fydd yr aelod hynaf o garfan codi pwysau Team GB.

Cyn troi at godi pwysau roedd yn bencampwr karate cenedlaethol.

Bydd yn dilyn ôl troed ei diweddar dad, Terry Perdue, a fu'n cynrychioli Prydain mewn codi pwysau ddwywaith - Mecsico yn 1968 a Munich yn 1972.

Cafodd ei geni a'i magu yn Abertawe, ond mae'n byw yn Leeds bellach er mwyn iddi fedru ymarfer yn y ganolfan rhagoriaeth codi pwysau yno.

Mae'n gweithio i Gyngor Dinas Leeds yn casglu sbwriel.