Cystadleuwyr 2012 : Frankie Jones

Image copyright Getty Images

Gymnasteg rhyddmaidd

Ganwyd: 9/11/90

Mae Frankie (Francesca) Jones wedi bod yn bencampwr Prydain bum gwaith - yn 2006, 2007, 2009, 2010, and 2011

Ei champ fwyaf ar y llwyfan rhyngwladol hyd yma oedd ennill medal arian yng Ngemau'r Gymanwlad yn Delhi, 2010 am ei pherfformiad gyda'r cylchyn. Roedd yn bedwerydd ar y cyfan.

Hi yw'r aelod mwyaf profiadol o dîm Prydain gan ei bod wedi cystadlu ym Mhencampwriaeth y Byd deirgwaith a Phencampwriaeth Ewrop bedair gwaith ynghyd â Gemau'r Gymanwlad ddwywaith - Melbourne 2006 a Delhi 2010.

Ffaith ddiddorol

Mae mam Frankie wedi cymhwyso fel beirniad swyddogol ar gyfer gymnasteg rhyddmaidd.