Llifogydd: Pryder rhai busnesau

Parc carafanau Riverside ar ôl y llifogydd Image copyright PA
Image caption Parc carafanau Riverside ar ôl y llifogydd

Mae corff twristiaeth sy'n cynrychioli 600 o fusnesau yn poeni am gyhoeddusrwydd gwael yn sgil y llifogydd diweddar.

Dywedodd Twristiaeth Canolbarth Cymru (TCC) fod y cyhoeddusrwydd wedi cael effaith negyddol ar yr ardal.

Ond dywedodd y corff fod angen sicrhau pobl fod y canolbarth ar agor i fusnes unwaith yn rhagor.

Mae disgwyl i'r llywodraeth gynnig cymorth i gwmnïau, yn enwedig yn y sector twristiaeth.

'Peryg'

Dywedodd Cadeirydd TCC, Anne Lloyd Jones, fod rhai busnesau wedi sôn wrthi am bobl yn canslo eu gwyliau.

"Mae yna beryg os nad ydym ni yn ofalus y bydd y cyhoeddusrwydd am lifogydd y penwythnos yn perswadio pobl i beidio ag ymweld â'r canolbarth, a byddai hynny'n effeithio'r economi leol," meddai.

"Mae'r rhan fwyaf o fusnesau yn gweithio yn ôl yr arfer ac rydym yn gobeithio y bydd twristiaid yn dychwelyd y penwythnos hwn".

Fe ddioddefodd rhannau o Geredigion lifogydd pum troedfedd.

Mae'r gwaith o lanhau yn parhau yn Aberystwyth a phentrefi fel Tal-y-bont, Dôl-y-bont a Llandre.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.