Clegg: Rhybudd i Lywodraeth Cymru

Nick Clegg
Image caption Mae Mr Clegg yn credu y bydd Cymru yn cael pwerau dros fenthyg, a thros amrywio trethi yn y pen draw

Mae'r Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg, wedi rhybuddio Llywodraeth Cymru i roi'r gorau i roi'r bai'n dragwyddol ar lywodraeth San Steffan a chymryd mwy o gyfrifoldeb dros godi'r arian maen nhw'n ei wario.

Mae Mr Clegg yn credu y bydd Cymru yn cael pwerau dros fenthyg, a thros amrywio trethi yn y pen draw.

Mae'r berthynas rhwng y ddwy lywodraeth yng Nghaerdydd a San Steffan wedi bod yn ddigon stormus byth oddi ar yr etholiad cyffredinol yn 2010.

Mae 'na sawl dadl wedi bod ers hynny gan gynnwys ariannu Cymru, tâl rhanbarthol a diwygio'r wladwriaeth les - mae 'na sawl dadl wedi bod.

Yn ôl Mr Clegg roedd hi'n bryd i Carwyn Jones a'i lywodraeth roi'r gorau i feio Llundain am broblemau Cymru, rhoi'r gorau i weld bai yn dragwyddol a phwyntio bys.

Elfen allweddol o atebolrwydd, meddai, fyddai pwerau i amrywio rhai trethi, yn hytrach na dibynnu'n llwyr ar daliadau o San Steffan.

Fe fydd 'na groeso i sŵn positif y Dirprwy Brif Weinidog wrth drafod rhoi pwerau benthyg i Gymru - a chnoi cil ar neges sy'n dweud y byddai'n beth rhyfedd ac anghyson pe na bai gan Gymru "ryddid ariannol o werth" ryw ddydd.

Straeon perthnasol