Gemau Paralympaidd 2012: Dave Roberts yn ennill apêl

David Roberts Image copyright Getty Images
Image caption Mae David Roberts wedi bod yn diodde' gydag anafiadau ers tua dwy flynedd

Mae gobeithion y nofiwr Paralympaidd David Roberts o gymryd rhan yn y Gemau Olympaidd yn Llundain eleni yn dal yn fyw wedi iddo ennill apêl am beidio cael ei gynnwys yn nhîm Paralympaidd Prydain.

Roedd Roberts, 32 oed, sydd wedi ennill 11 medal aur, wedi methu â chyrraedd yr amseroedd angenrheidiol yn y rasys dull rhydd 50m a 100m mewn treialon yn Sheffield ym mis Ebrill.

Y gred oedd bod Roberts wedi colli'r cyfle i gipio record medalau'r Fonesig Tanni Grey-Thompson, a sicrhau ei le yn y llyfrau hanes fel yr athletwr Paralympaidd Prydeinig mwya' llwyddiannus yr oes fodern wrth gipio un fedal aur arall.

Ond yn awr bydd yn rhaid i Nofio Prydain ail ystyried eu penderfyniad i beidio cynnwys Roberts yn nhîm Paralympaidd Prydain.

Ymdrechion

Roedd Dave Roberts, a anwyd yng Nghaerdydd, wedi cael cyfres o anafiadau dros y ddwy flynedd ddiwetha' ac wedi cydnabod yn Sheffield y gallai ei ymdrechion i gyrraedd y gemau Paralympaidd eleni fod yn rhy hwyr.

"Nid yw geiriau'n gallu cyfleu fy nheimladau ar hyn o bryd," meddai Roberts.

"Mae'n deimlad gwych i wybod y gallaf fod yn rhan o dîm mor gryf mewn Gemau mor arbennig.

"Rwy'n gobeithio y gallaf gael y cyfle i gystadlu yn y Gemau Olympaidd i roi diolch i fy nheulu, fy ffrindiau, fy asiant a fy nghyfreithwyr am ymddiried ynof."

Mewn datganiad dywedodd Nofio Prydain nad oeddent yn gallu cynnig unrhyw sylwadau ar hyn o bryd am eu bod yn ystyried bod y mater yn dal i fod yn rhan o'r broses apêl.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.