20/20: Glaw yn rhwystro Morgannwg

Logo Morgannwg Image copyright Other

Bu'n rhaid i Forgannwg a Swydd Northampton roi'r gorau i'w gêm yn y Bencampwriaeth 20 pelawd nos Fercher oherwydd y glaw.

Dim ond 9.3 pelawd o fatiad Swydd Northampton gafodd ei gwblhau yng ngêm gyntaf Morgannwg yn y gystadleuaeth eleni.

Roedd y tîm cartref wedi sgorio 70 rhediad am dair wiced pan fu'n rhaid i'r ddau dîm roi'r gorau i'r chwarae gan ennill pwynt yr un.

Bydd y Dreigiau yn gobeithio bydd y tywydd yn well Ddydd Sul pan ddisgwylir i 12,000 o bobl wylio'r ornest rhwng Morgannwg a Swydd Warwick yn Stadiwm Swalec.

Pencampwriaeth 20/20Swydd Northampton v MorgannwgSwydd Northampton - 70-3 (9.3 pelawd)

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.