Tân mewn bloc o fflatiau yn y brifddinas

Mae'r gwasanaeth tân wedi diffodd tân mewn bloc o fflatiau yng Nghaerdydd.

Roedd y tân mewn fflatiau yn South Loudoun Place, Trebiwt, Bae Caerdydd.

Cafodd pum criw tân eu galw i'r safle am 7:37am.

Bu'n rhaid i 15 o'r trigolion adael yr adeilad. Ni chafodd neb ei anafu.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.