Abertawe yn penodi Michael Laudrup

Michael Laudrup
Image caption Chwaraeodd Michael laudrup 104 tro dros Denmark

Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi cadarnhau taw Michael Laudrup fydd rheolwr newydd yr Elyrch.

Dywedodd cadeirydd y clwb, Huw Jenkins, mai cyn ymosodwr Real Madrid, Barcelona a Denmarc fydd yn olynu Brendan Rodgers wnaeth adael i reoli Lerpwl ym mis Mai eleni.

Mae Laudrup wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd gyda'r clwb wnaeth orffen yn 11eg safle'r Uwchgynghrair y tymor diwethaf.

Y gred yw bod dulliau rheoli a hyfforddi Laudrup yn plethu i feddylfryd y clwb.

Rheolwyr ifanc

Mae Laudrup, 48 oed, yn cyn rheolwr clybiau pêl droed Brondby, Getafe, Spartak Moscow a Real Mallorca.

Roedd rheolwr Blackpool, Ian Holloway, cyn capten Ffrainc, Marcel Desaily, a dirprwy reolwr Wigan, Graeme Jones wedi cael eu cysylltu â'r swydd yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Enillodd Laudrup bencampwriaeth Sbaen bum tro wrth chwarae i Barcelona a Real Madrid rhwng 1991 a 1995 ac fe sgoriodd 37 gôl mewn 104 gêm i Denmarc.

Nid yw Laudrup wedi rheoli'r un clwb ers iddo ymddiswyddo fel rheolwr Mallorca ym mis Medi 2011 ar ôl i'r clwb ddiswyddo ei ddirprwy, Erik Larsen.

Mae gan gadeirydd Abertawe, Huw Jenkins enw da am benodi rheolwyr ifanc sy'n rhannu ei feddylfryd o chwarae pêl-droed deniadol.

Straeon perthnasol