Pryder am ddyfodol capel y 'Pêr Ganiedydd'

Capel Coffa Williams Pantycelyn
Image caption Wyth aelod sydd yn y capel

Mae pryderon am ddyfodol capel gafodd ei godi er cof am emynydd enwocaf Cymru.

Wyth aelod sydd yn nghapel coffa William Williams Pantycelyn yn Llanymddyfri.

Mae'r gweinidog, y Parch D H Jenkins, yn mynd i annerch cyngor cymuned y dref nos Lun i ofyn am help i'w gadw ar agor.

Cynnal a chadw yw'r brif broblem i'r addolwyr.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Rhiannon Michael gafodd farn trigolion Llanymddyfri

Gan ei bod hi'n rhy ddrud i wresogi'r capel ei hun, yn y festri mae'r gwasanaethau ac mae'r aelodau oedrannus yn cael trafferth cyrraedd i addoli fwy nag un waith y mis.

Ond mae ymwelwyr yn dod i Lanymddyfri ar deithiau i ddysgu mwy am hanes yr emynydd.

'Chwilio am y capel

Mae Ann Jones o'r Ganolfan Groeso yn poeni am effaith cau'r capel ar dwristiaeth.

"Mae'n drist achos bod amryw o ymwelwyr sy'n dod yma wedi dilyn trywydd Williams Pantycelyn, yn mynd i edrych ar y gofeb, chwilio am y capel a chartrefle Pantycelyn," meddai.

"Mae diddordeb mawr yn ei hanes."

Mae Cecil Williams yn aelod o chweched genhedlaeth y teulu Williams sydd wedi ffermio tir Pantycelyn ers cyfnod yr emynydd.

Image caption Mae Cecil Williams a'i deulu'n parhau i weithio ar fferm Pantycelyn

"Beth fydden nhw'n dweud tasen ni'n cau Pantycelyn?" gofynnodd.

Llyfr ymwelwyr

Mae nifer yr ymwelwyr i'r fferm ers dechrau'r 20fed ganrif wedi llenwi chwech llyfr ymwelwyr ac fe fydd y seithfed yn llawn yn fuan.

Ymhlith y llofnodion cynharaf, mae enw'r cyn Brif Weinidog, David Lloyd George, a llofnodion ei deulu - gan gynnwys llofnod ei ferch, Megan Lloyd George.

"Mae'n werth cadw'r capel i fynd fydden i'n meddwl," meddai Mr Williams.

"Rydym ni ym Mhantycelyn, mae teithiau yn dod yma.

"Mae'n rhywbeth sy'n dod â thwristiaid i'r dre.

"Maen nhw'n galw yn y capel ac maen nhw'n galw yn y caffi. Bydd colli popeth yn golled i'r dre ... Dwi'n gweld y dylen nhw ei gadw fe fel cofeb."

£85,000 Pryder yr aelodau oedrannus yw y byddan nhw'n siomi pobl Llanymddyfri wrth gau.

Saith mlynedd yn ôl derbyniodd y capel grant o £85,000 o bunnoedd i gywiro'r to, ac fe roddodd pobl ar draws Cymru £25,000 i adfer y capel - gan gynnwys gwaith ar y ffenestr lliw sy'n darlunio gwahanol broffwydi a Mari Jones a'i Beibl.

Dyw'r selogion ddim eisiau cau'r drysau ar y gymuned, ond maen nhw'n dweud bod rhaid i rywbeth ddigwydd.

Mae'r ofalwraig ymhell dros oed yr addewid a neb ifanc yn helpu gyda'r gwaith cynnal a chadw - a dim arian i dalu unrhyw un i helpu.

Image caption Mae darlun William Williams wedi ei gerfio yn y pulpud, a'r organ yn dyddio nôl i sefydlu'r capel yn 1888.

"Does 'na ddim ond rhyw wyth o aelodau, pedwar neu bump sydd yn gallu mynychu'r oedfaon," meddai Mari Fflur, Pennaeth Cyfathrebu Eglwys Bresbyteraidd Cymru sy'n gyfrifol am achos y Capel Coffa.

"Mae'n fater i'r henaduriaeth leol ... benderfynu a ydyn nhw'n gwerthu'r adeilad ai peidio."

'Trafodaethau'

Gobaith y gweinidog yw y gall berswadio Cyngor Tref Llanymddyfri i ddefnyddio'r adeilad.

"Mae'r gweinidog, y Parchedig David Jenkins, mewn trafodaethau efo cyngor tref Llanymddyfri," meddai Ms Fflur.

"Be fysa fo'n licio ei weld ydy'r cyngor neu ryw sefydliad arall yn llogi'r adeilad - sydd reit ynghanol y dref mewn lleoliad perffaith - ar gyfer defnydd y gymuned.

"Trwy hynny, byddai modd i'r gynulleidfa barhau i gyfarfod yna fel maen nhw'n gwneud ar hyn o bryd.

"Os na fydd modd dod o hyd i rywun i logi'r adeilad, neu rannu defnydd ohono fo maes o law bydd rhaid rhoi'r adeilad ar y farchnad."

Dyw'r penderfyniad ddim wedi ei wneud eto ond mae yna gwmwl du dros ddyfodol y capel.

Straeon perthnasol

Hefyd ar y BBC