Cau ffatri olaf Dewhirst

Ddydd Iau mi fydd yr olaf o ffatrïoedd cynhyrchu dillad Dewhirst yng Nghymru yn cau.

Eisoes caewyd ffatrïoedd y cwmni yn Llanbed, Abertawe ac Aberteifi a gyda chau'r ffatri yn Abergawun fe fydd 160 yn colli eu gwaith.

A hynny mewn ardal sydd eisoes wedi dioddef yn enbyd o ganlyniad i golli swyddi.

Pwysau i ostwng prisiau sy'n gyfrifol am y penderfyniadau i gau'r ffatrïoedd yn ôl y cwmni.

Yn ôl Cynog Dafis, un o aelodau'r ardal yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, mae angen i lywodraeth Cymru wneud mwy i roi hwb i economi'r gorllewin.

Dywed fod yna argyfwng swyddi yn bodoli ar hyd arfordir gorllewin Cymru.

Polisi datblygu

Mae angen, meddai, gweithredu polisi datblygu rhanbarthol yn yr ardal i adfywio'r economi lleol.

A dywed Alun Cairns, yr aelod Ceidwadol yn y Cynulliad dros Orllewin De Cymru, bod y Cynulliad wedi methu darparu cynlluniau digonol i ymateb i'r diswyddiadau.

Yn ôl Mr Cairns roedd modd rhagweld y diswyddiadau, ar ôl i'r cwmni ddiswyddo'r gweithwyr yn Llanbed a Fforestfach.

Mae o, hefyd, yn beirniadu Prif Weinidog y Cynulliad, Rhodri Morgan, am fethu darparu cynllun tebyg i'r hyn cafodd ei gyflwyno yn ne-ddwyrain Cymru'n dilyn y diswyddiadau yn y diwydiant dur.

"Rydym yn flin i gyhoeddi y bydd y ffatri'n cau," meddai llefarydd ar ran y cwmni.

"Mae pwysau ar brisiau'n golygu nad oes digon o elw i gynnal sail cynhyrchu yng ngwledydd Prydain.

Archebion

"Mae diffyg archebion y siop fawr Marks & Spencer hefyd wedi andwyo ar berfformiad y cwmni."

"Mae hon yn sioc fawr i'r ardal, y gweithwyr a'u teuluoedd" meddai Brian Howells, cynghorydd Abergwaun ar Gyngor Sir Benfro.

"Mae gweithwyr Dewhirst yn hala arian yn Abergwaun a'r ardal a bydd efaith fawr yn y siopau a phob math o wasanaethau."

Hyd yn hyn mae 1,400 o weithwyr Dewhirst yng Nghymru wedi colli eu swyddi ers i'r cynllun-cau-ffatrïoedd ddechrau yn 1998.

Dywedodd Emily Thomas o undeb y GMB wedi'r cyhoeddiad yn Abergwaun y bydden nhw'n ceisio trefnu cyfarfodydd â'r Cynulliad er mwyn helpu gweithwyr Abergwaun.

"Yn ystod y cyfnod ymgynghori byddwn yn gwneud ein gorau glas i sicrhau eu bod yn cadw eu swyddi neu'n cael eu hyfforddi," meddai.

"Mae lefel eu sgiliau'n uchel iawn."

Dywedodd Gweinidog Datblygu Economaidd y Cynulliad, Andrew Davies, ei fod wedi ei siomi'n arw.

"Maen nhw wedi gwneud penderfyniad strategol i adael Cymru er mwyn gwneud mwy o elw," meddai.

"Yn anffodus, roedd y rhybudd am y cyhoeddiad hwn yn hwyr iawn."

Roedd weithwyr Abergwaun yn cynhyrchu trwseri i siop fawr Marks & Spencer.

Bydd tua 100 o staff gweinyddol yn dal i weithio yn Abertawe a 100 yn yr adran dosbarthu yng Nghapel Hendre ger Rhydaman.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.