Abertawe i wynebu QPR oddi cartref yn eu gêm gyntaf

Mae trefn gemau Uwch Gynghrair Lloegr ar gyfer y tymor nesa' wedi cael eu rhyddhau.

Fe fydd Abertawe yn cychwyn eu hail dymor yn y gynghrair drwy deithio i wynebu tîm y Cymro Mark Hughes, Queens Park Rangers, ar Awst 18.

Bydd gêm cartref cyntaf Yr Elyrch o dan eu rheolwr newydd, Michael Laudrup, ar Awst 25 wrth iddyn nhw groesawu West Ham United.

Bydd deiliaid y gynghrair, Manchester City yn cychwyn eu tymor gartref yn erbyn Southampton.

Taith i Barc Goodison i wynebu Everton sydd gan Manchester United ar y penwythnos cyntaf tra bydd Arsenal, a oedd yn drydydd, gartref yn erbyn Sunderland.

Bydd gêm gyntaf Roberto di Matteo fel rheolwr parhaol Chelsea yn teithio i Wigan tra bydd gêm gyntaf cyn reolwr Abertawe, Brendan Rodgers, fel rheolwr Lerpwl yn golygu taith i West Bromwich Albion.

Ond fe fydd y tair gêm gartref i Rogers a'r Cochion yn eu gweld yn croesawu Manchester City, Arsenal a Manchester United.

Gemau Abertawe

Awst 18 Queens Park Rangers

Awst 25 West Ham United

Medi 1 Sunderland

Medi 15 Aston Villa

Medi 22 Everton

Medi 29 Stoke

Hydref 6 Reading

Hydref 20 Wigan Athletic

Hydref 27 Manchester City

Tachwedd 3Chelsea

Tachwedd 10 Southampton

Tachwedd 17 Newcastle

Tachwedd 24 Lerpwl

Tachwedd 27West Bromwich Albion

Rhagfyr 1Arsenal

Rhagfyr 8 Norwich

Rhagfyr 15Tottenham Hotspur

Rhagfyr 22 Manchester United

Rhagfyr 26 Reading

Rhagfyr 29 Fulham

Ionawr 1 Aston Villa

Ionawr 12 Everton

Ionawr 19 Stoke

Ionawr 29 Sunderland

Chwefror 2 West Ham United

Chwefror 9Queens Park Rangers

Chwefror 23 Lerpwl

Mawrth 2 Newcastle

Mawrth 9 West Bromwich Albion

Mawrth 16 Arsenal

Mawrth 30Tottenham Hotspur

Erbill 6 Norwich

Ebrill 13 Wigan

Ebrill 20 Southampton

Ebrill 27 Chelsea

Mai 4 Manchester City

Mai 12 Manchester United

Mai 19 Fulham

Gallai'r dyddiadau newid oherwydd gofynion teledu.