Fferm Wynt
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Protest yn erbyn tyrbeini gwynt ar Ynys Môn

18 Mehefin 2012 Diweddarwyd 12:40 BST

Roedd dros 300 o drigolion Ynys Môn yn gorymdeithio drwy bentref Llanddona ddydd Sul er mwyn gwrthwynebu cynlluniau i ddatblygu tyrbeini gwynt ar draws yr ynys.

Yn ôl y protestwyr maen nhw'n poeni am effaith y tyrbeini ar dirwedd Ynys Môn.

Adroddiad Gethin Morris Williams.