Rheithgor yn ail ymgynnull yn achos llofruddiaeth mab 7 oed

Yaseen Ali Ege Image copyright Other
Image caption Cafodd corff Yaseen, saith oed, ei ddarganfod wedi tân yn ei gartref

Mae rheithgor achos mam ar gyhuddiad o lofruddio ei mab saith oed yn ail ymgynnull i ystyried eu dyfarniad ddydd llun.

Dydd Gwener roedd y barnwr wedi dweud wrth y rheithgor ei fod yn fodlon derbyn dyfarniad mwyafrif o 10-2.

Yn Llys y Goron Caerdydd mae Sara Ege, 33 oed o Dreganna, Caerdydd, wedi gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth ac o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Honnodd hi mai ei gŵr, Yousuf Ali Ege, 38 oed, laddodd eu mab Yaseen.

Cafodd corff Yaseen ei ddarganfod wedi tân yn ei gartre ym mis Gorffennaf 2010.

Mae'r tad wedi gwadu cyhuddiad o ganiatáu i blentyn farw drwy fethu â'i amddiffyn.

Colli rheolaeth

Honnodd Peter Burkitt QC ar ran yr amddiffyn nad oedd y tad yn gwybod fod ei wraig yn curo eu mab, Yaseen, am bedwar mis cyn ei farwolaeth.

Dywedodd Mr Burkitt nad oedd unrhyw un arall wedi amau'r fam dros gyfnod o bedwar mis.

Roedd yr erlynydd, Ian Murphy QC, wedi dweud bod y fam wedi cyffesu sawl tro ei bod wedi ymddwyn yn dreisgar, ar Orffennaf 26 a 28 ac Awst 3 a 10, 2010.

Roedd ffrwydrad, meddai, o emosiynau oherwydd ei dicter ac oherwydd iddi golli rheolaeth.

"Ni fyddai actores enillodd Oscar yn gallu perfformio fel hyn am ddiwrnodau."

Mae'r erlyniad wedi honni bod y fam wedi lladd ei mab oherwydd ei anallu i ddysgu'r Coran ar ei gof.

Straeon perthnasol