Trafod dyfodol canolfan sorbio yn Sir y Fflint

Sorbio Image copyright Getty Images
Image caption Mae'r gamp yn cael ei chynnal ar Fferm Bryn Coch, Chwitffordd

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi eu cynghori i gau canolfan weithgareddau lle mae pobl yn rholio i lawr llethr mewn pêl fawr sydd wedi'i llenwi ag aer.

Daw wedi honiadau bod y gamp eithafol yn dychryn ceffylau.

Cafodd gweithgaredd sorbio yn Chwitffordd ganiatâd dros dro'r llynedd i asesu ei heffaith ar lwybr ceffylau gerllaw.

Ond yn awr mae cynllunwyr yn cael eu hannog i wrthod caniatâd pellach wedi cwynion gan Gymdeithas Ceffylau Prydain.

Mae cefnogwyr y gamp yn honni ei bod yn denu twristiaid i'r ardal gan greu swyddi.

'Cwynion'

Mae'r caniatâd dros dro wedi dod i ben ac fe fydd cais gan gwmni Have You Got the Ball Cyf. i barhau i weithredu yn cael ei drafod gan bwyllgor cynllunio'r cyngor ddydd Mercher.

Dywedodd adroddiad ar gyfer y pwyllgor cynllunio: "Yr argymhelliad yw gwrthod y cais hwn wedi cwynion gan Gymdeithas Ceffylau Prydain yn Fforymau Mynediad Lleol Sir y Fflint."

Ychwanegodd y ddogfen fod y rhai ar y ceffylau yn tueddu i beidio defnyddio'r rhan yma o'r llwybr am eu bod yn ofni y byddan nhw neu eu ceffylau yn cael damwain.

Mae 'na un adroddiad bod rhywun wedi ei daflu oddi ar ei geffyl pan oedd y ganolfan yn cael ei ddefnyddio ar gyfer sorbio.

Yn ôl y ddogfen, mae'r gronfa ddata ceffylau cenedlaethol yn dangos bod 5,300 o geffylau wedi'u cofrestru yn Sir y Fflint.

Ond mae rheolwr twristiaeth y sir yn cefnogi'r cais gan ychwanegu bod 1,300 o bobl wedi defnyddio'r ganolfan ers y llynedd.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.