Gyrrwr o Gymru yn pledio'n euog

Safle'r ddamwain ar Ragfyr 12, 2010
Image caption Safle'r ddamwain ar Ragfyr 12, 2010

Mae gyrrwr bws o Gymru wedi pledio'n euog i gyhuddiad o achosi marwolaeth dyn drwy yrru'n beryglus ar draffordd yr M5.

Yn wreiddiol yn Llys y Goron Caerwrangon roedd Daniel Parr, 24 oed o'r Fenni, wedi pledio'n ddieuog.

Mae wedi cael mechnïaeth a bydd yn cael ei ddedfrydu yng Ngorffennaf yn Llys y Goron Caerloyw.

Honwyd bod Mr Parr yn gyrru Megabus o Gaerdydd i Leeds yn beryglus ger Tewkesbury pan ddigwyddodd y ddamwain ar Ragfyr 12, 2010.

Roedd wedi ei gyhuddo o achosi marwolaeth Raymond Vaughan drwy yrru'n beryglus.

Ar y pryd dywedodd yr heddlu fod y bws, lori fawr a dau gar yn y ddamwain.

Roedd Mr Vaughan, 30 oed, tad i ddau o Birmingham, yn gyrru car.