Gwaith i achosi mwy o oedi ar ran o draffordd yr M4

Map o'r ardal
Image caption Fe fydd y gwaith wedi ei gwblhai i fod erbyn Gorffennaf 19

Mae disgwyl mwy o oedi na'r arfer wrth i waith cynnal a chadw ddechrau ar draffordd yr M4 ger cylchfan Pont Abraham, Sir Gaerfyrddin, ddydd Mawrth.

Fel rhan o'r gwaith, bydd rhannau o'r bont yn cael eu trin er mwyn sicrhau eu bod yn gwrthsefyll dŵr.

Bydd y gwaith yn cael ei wneud dros ddau benwythnos, os bydd y tywydd yn caniatáu.

O'r herwydd, bydd rhai o lonydd y draffordd yn cael eu cau yn gyfan gwbl rhwng 8pm ar nos Wener a 6am ddydd Llun.

Bydd gweddill y gwaith yn cael ei wneud dros nos, gan olygu cau lonydd rhwng cyffyrdd 48 a 49, ac ar yr A48 rhwng Pont Abraham a Cross Hands.

Mae Traffig Cymru yn rhybuddio y bydd y gwaith yn achosi cryn oedi ar brydiau ond maen nhw'n dweud y bydd rheolaeth traffig yn helpu i leddfu tagfeydd, ac y bydd pob ymdrech yn cael ei gwneud i leihau'r effaith ar deithwyr.

Mae disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn Gorffennaf 19 2012, os fydd y tywydd wedi bod yn ffafriol i gynnal y gwaith.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.