Teulu yn rhyddhau teyrnged i Tom Maynard

Tom Maynard Image copyright Getty Images
Image caption Bu farw Tom Maynard yn oriau mân bore Llun

Mae teulu'r cricedwr Tom Maynard wedi rhoi teyrnged iddo.

Bu farw Maynard, 23 oed, ger gorsaf danddaearol Wimbledon Park yn Llundain ddydd Llun.

Maen nhw'n cyfeirio at farwolaeth drasig y cricedwr amryddawn a anwyd yng Nghaerdydd.

Cafodd y datganiad ei ryddhau ar ran y teulu drwy Heddlu Trafnidiaeth Prydain.

"Dymuna teulu'r Maynard ddiolch i bawb am unrhyw arwydd o gefnogaeth wedi marwolaeth drasig Tom yn Llundain fore Llun.

"Fel y gallwch ddychmygu, mae'r newyddion wedi dod fel ergyd ysgytwol.

"Rydym fel teulu, er hynny, yn ddiolchgar am y negeseuon o gydymdeimlad.

"Rydym am gael llonydd i alaru yn breifat ar amser anodd iawn a thrist i ni fel teulu."

Wimbledon Park

Mae Clwb Criced Surrey hefyd wedi dweud bod teyrngedau wedi eu gadael y tu allan i'r Oval.

A dydd Mawrth fe wnaeth Clwb Criced Morgannwg gyhoeddi eu bod yn gohirio eu gêm yn erbyn Sir Gaerwrangon yng Nghaerdydd Nos Fercher.

Dywedodd Heddlu Trafnidiaeth Prydain gael eu galw i'r rheilffordd ger gorsaf Wimbledon Park yn Llundain ddydd Llun Mehefin 18 ar ôl i ddyn gael ei daro gan drên ar y District Line.

"Cafodd yr heddlu alwad am 5.03am ac fe wnaeth Heddlu'r Met ymateb hefyd.

"Cafodd gwasanaeth Ambiwlans Llundain eu galw at y dyn 23 oed, ond roedd o wedi marw yn y fan a'r lle."

Dywedodd y llefarydd nad oedd y farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus a bod manylion yn cael eu paratoi ar gyfer y crwner.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.