Carwyn Jones: 'Croeso i longau tanfor niwclear'

Tu mewn i long danfor Trident
Image caption Tu mewn i long danfor Trident

Byddai croeso i longau tanfor niwclear Prydain gael eu cadw yng Nghymru os ydyn nhw'n gadael yr Alban, meddai'r Prif Weinidog Carwyn Jones.

Mae llywodraeth Plaid Genedlaethol yr Alban wedi dweud eu bod am i'r llynges danfor, sy'n cario taflegrau niwclear Trident, adael eu safle presennol ger arfordir gorllewin yr Alban.

Ar hyn o bryd maen nhw'n cael eu cadw yn Faslane yn aber Afon Clud.

Roedd sylwadau Mr Jones brynhawn Mawrth ar lawr y Senedd ym Mae Caerdydd yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog.

'6,000 o swyddi'

Dywedodd y byddai "mwy na chroeso i longau tanfor niwclear Prydain a 6,000 o swyddi yn Aberdaugleddau".

Mae Llywodraeth San Steffan wedi dweud nad oedd bwriad i symud canolfan Faslane.

Ond dywedodd AC Plaid Cymru Simon Thomas, y mae ei ranbarth yn cynnwys Aberdaugleddau: "Mae hyn yn dweud y cyfan am Lywodraeth Lafur Cymru.

"Maen nhw wedi methu ag amddiffyn Cymru yn ystod yr argyfwng economaidd a nawr mae'r Prif Weinidog yn gorfod gwneud datganiadau chwerthinllyd sy'n gwneud dim lles o gwbl i'w hygrededd ei hun a llai fyth i ddelwedd Cymru yn y byd."

'Miloedd o swyddi'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r Prif Weinidog yn cydnabod manteision economaidd sylweddol symud i orllewin Cymru.

"... byddai'r hwb economaidd yn golygu miloedd o swyddi o ansawdd uchel ac â chyflogau uchel."

Ar Trydar dywedodd AC Plaid Cymru, Jonathan Edwards: "Mae hwn yn ddatblygiad arwyddocaol iawn.

"Yn Aberdaugleddau ni ddylai nwy petrolewm hylifedig a llongau tanfor niwclear fod yn yr un lle."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.